google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr adferiad arafaf ym Mhrydain yn nifer y teithwyr ar fysiau

0e9e7470 149a 11f0 b1b3 7358f8d35a35.jpg

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y byddai cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddod â bysiau o dan reolaeth gyhoeddus yn “caniatáu i ni ganolbwyntio o ddifrif ar ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy’n gweithio i bobl Cymru”.

Yn ôl data Adran Drafnidiaeth y DU, roedd nifer y teithwyr ar fysiau yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024 wedi cyrraedd 78.3% o’r lefel cyn y pandemig (Mawrth 2020).

Mae hyn yn cymharu â 92.5% yn yr Alban, 89.5% yn Lloegr, ac 89.5% ar gyfer Prydain gyfan.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates, wedi awgrymu yn y gorffennol, er y gwelwyd adferiad yn nifer y teithwyr sy’n talu am docyn, na welwyd adferiad o ran teithio consesiynol.

Mae hyn yn wahanol i’r tueddiadau yn Lloegr a’r Alban, lle mae polisïau fel prisiau tocynnau wedi’u capio (£2 yn Lloegr, yn codi i £3 o fis Rhagfyr 2024) a theithio am ddim ar fysiau i’r rhai o dan 22 oed yn yr Alban wedi’u cyflwyno.


BBC News

Advertisements

See also  Skomer Island puffin numbers hit record high despite global fall

Check Also

Burnham’s devolution plan won’t work in Wales, ex-minister says

Former Welsh local government minister Alun Davies told Radio Wales Breakfast on Monday he was …

John Lewis – ‘un o gewri byd cyhoeddi Cymru’, wedi marw

Yn ystod cyfweliad ar Beti a’i Phobol yn 2012, bu John Lewis yn sôn am …

Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Yn ôl Mair Morgan, sydd ymhlith sawl cenhedlaeth o gyn-ddisgyblion Ysgol Bancffosfelen, mae yna “siom …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime