google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ynys Môn: Cysylltedd dros y Fenai ‘yn fater o argyfwng’

Yn ôl Llinos Medi, mae’r diffyg trydydd croesiad yn cael effaith ar economi’r ynys ac ar ddenu busnesau newydd i’r ardal.

“Mae ‘na gynlluniau enfawr posib yma ar Ynys Môn ac mi yda’ ni angen hyrwyddo hynny, mae angen hyrwyddo’r economi, mi yda’ ni angen hyrwyddo ein hardal i fuddsoddi ynddo fo,” meddai.

“Os yda’ chi’n chwilio ac yn edrych ar Ynys Môn – y pryder cysylltedd yna ydy un o’r pethau cyntaf sy’n cael ei godi.”

Mae rhai yn dadlau fod y gost a’r effaith ar yr amgylchedd angen eu hystyried wrth feddwl am y cysylltiad rhwng yr ynys a’r tir mawr.

Ond yn ôl yr aelod seneddol newydd, mae’n bwysig buddsoddi yn yr isadeiledd.

Ychwanegodd Ms Medi: “O ran y gost, 200 mlynedd yn ôl, mi oedd Pont Borth yn ddrud ofnadwy ond mae hi wedi talu ar ei chanfed, dyna ydy buddsoddi mewn gwlad, economi ac mewn gwytnwch gwlad.

“Ac mae’r elfen amgylcheddol – mae’n rhaid i ni fod yn onest gyda’r gymuned yma, oherwydd os oes yna drydydd cysylltiad, mae’n rhaid i ni gael sgwrs agored iawn ynglŷn â beth fydd effaith hynny ar y gymuned wrth ei ddatblygu.”


Source link

Advertisements

See also  Gyrrwr a laddodd athletwraig Team GB i gael ei alltudio i Rwmania

Check Also

Ji-sung Eom racist abuse: Millwall boss Alex Neil criticised for stoppage comments

When he was alerted to the accusations, referee Edward Duckworth had lengthy discussions with both …

Cancer death exposes eye care follow-up failures, coroner warns

A 70-year-old man died of eye cancer after a recommended appointment was not followed up …

Reu! Llechi wedi eu naddu ym Mhen-y-groes i ddathlu cyfraniad Dyfrig Evans

Meddai Llio: “Mae’n gyfle da i atgoffa pobl o’r cyfoeth o bobl sy’n byw yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime