google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymgyrch newydd i annog mwy i roi’r gorau i ysmygu

Advertisements

Mae ysmygu yn parhau i fod y prif achos o glefyd a marwolaethau yng Nghymru.

Rhwng 2020 a 2022, roedd cyfartaledd o 3,845 o farwolaethau ymhlith oedolion 35 oed a throsodd yn gysylltiedig ag ysmygu – mwy nag un o bob deg o’r holl farwolaethau yn y boblogaeth dros 35.

Yn ystod yr un cyfnod, fe arweiniodd ysmygu at fwy nag 17,000 o gleifion yn mynd i’r ysbyty bob blwyddyn, gan ddangos y baich enfawr y mae ysmygu yn ei roi ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Yn ôl adroddodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024-25 mae 10% o oedolion yn ysmygu.

Dywedodd Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, “fod ysmygu yn parhau i niweidio miloedd o fywydau yng Nghymru bob blwyddyn – ond mae newid yn digwydd.

Mae llai o bobl yn ysmygu nag erioed o’r blaen, a gyda’r cymorth cywir, gall hyd yn oed mwy o ysmygwyr roi’r gorau i ysmygu am byth.”

Aeth ymlaen i ddweud eu bod yn annog pobl i wneud hwn yn adduned Blwyddyn Newydd gan ddefnyddio’r cyngor gan arbenigwyr er mwyn gwneud hynny.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach” meddai.

“I wneud hyn, mae’r cynghorwyr ar gael i gefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu am byth.”


BBC News

Views: 0

See also  Mumbai Indians Women v Delhi Capitals Women - Cricket

Check Also

Talu am bigiadau colli pwysau yn breifat yn sgil rhestrau aros hir

Ar ôl cael diagnosis yn 25 oed, roedd Hannah o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, wedi …

Archif Capel Jewin yn ‘swyno’ ac yn ‘obaith i’r dyfodol’

Un sydd wedi bod yn rhannu lluniau yw Bethan Davies – fe gafodd hi ei …

Man found dead after house fire, prompting investigation

A man has been found dead following a house blaze, prompting a joint police and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Clothing & accessories. Guía de bonos de dragobet casino en drago bet online : requisitos y tiradas gratis. Modern, mobil uyumlu ve yüksek hızlı bir arayüz.