google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymgyrch i adnewyddu un o adeiladau hanesyddol Caerffili

Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan gwpl o Gaerffili sy’n berchen ar stiwdio greadigol yn y dref.

Mae Ceri ac Emlyn Davies wedi creu fidoes ar gyfer grwpiau byd enwog fel Foo Fighters, ac wedi gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol fel Levi’s a Volvo.

“Da ni eisiau rhoi’r neuadd yn ôl fel yr oedd e,” meddai Emlyn Davies, “er mwyn i bobl i ddod mewn ac i greu, i wneud gweithgareddau celf, ac i weld sioe neu ffilm.”

Cafodd ei ysbrydoli i fod yn rhan o’r cynllun er mwyn rhoi cyfleoedd i’w blant ei hun

“Mae gen i dri phlentyn o saith i 15 oed a does dim lot i neud yn y dref – yn enwedig yn y nos, felly dwi eisiau lle iddyn nhw ddod a gwneud gweithgareddau newydd – i wneud perfformiadau, i wneud celf,” meddai.

Mae’r cynllun ar gyfer Neuadd y Gweithwyr wedi’i gynnwys yn rhan o brosiect adfywio Tref Caerffili 2035 gan yr awdurdod lleol.


Source link

See also  Retired police dogs should receive a pension, charity says

Check Also

Angen i’r llywodraeth ‘ddysgu gwersi’ wedi’r holl danau gwyllt

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y De: “Rydym yn ddiolchgar iawn am …

Merthyr Tydfil hospital helipad use suspended after fire breaks out

Emergency services are responding to a fire near to a hospital helipad which has led …

Bonnie Tyler: Family’s thanks for compassion after funeral

Tyler’s family thanked Only Men Aloud “for the beautiful singing during the service and after”. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime