google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymchwiliad wedi i blentyn bach ddianc o feithrinfa

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i blentyn bach gael ei ganfod yn crwydro yng nghanol y ffordd wedi iddo dianc o feithrinfa yn Sir Fynwy heb i neb sylwi.

Mae trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng penaethiaid cyngor, arolygwyr Gofal Cymru a Meithrinfa Tiny Tots yn Llan-ffwyst i atal digwyddiad tebyg.

Cafodd y bachgen, a gredir o fod rhwng 12 a 18 mis oed, ei weld gan ddau yrrwr ar Ffordd Llanellen, Llan-ffwyst, tua 11:00 ddydd Iau, 27 Mehefin.

Doedd y feithrinfa ddim am wneud sylw.

Yn ôl gohebydd Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol dywedodd rhywun a oedd yn digwydd mynd heibio ac a oedd am aros yn ddienw: “Roedd e yn llythrennol yn cerdded ar y ffordd.”

Fe aeth un o’r gyrwyr â’r plentyn yn ôl i’r feithrinfa.


Source link

Views: 2

See also  Y cyn-AS Nathan Gill wedi ei gyhuddo o droseddau llwgrwobrwyo

Check Also

‘Hwb i’r economi a’r Gymraeg’ – beth fydd gwir waddol Eisteddfod yr Urdd Môn 2026?

Wrth i’r pebyll gael eu tynnu lawr ac i faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn …

Golygfeydd ‘ofnadwy’ o bentyrrau sbwriel ar draethau Cymru

Mae pobl wedi ymateb yn ddig i olygfeydd “ofnadwy” o bentyrrau o sbwriel sydd wedi’u …

Cwis: Tafodiaith Ynys Môn – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.