google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y merched a helpodd i sefydlu Plaid Cymru

B893ed20 2b47 11f0 8f57 b7237f6a66e6.jpg

Advertisements

“O’dd Mallt Williams yn dod o deulu eitha cefnog, a ‘nath hynny olygu ei bod hi’n gallu cyfrannu mewn sawl ffordd at dwf cenedlaetholdeb yn nechrau’r ganrif.

“Roedd Mallt yn cyfrannu’n hael iawn at fudiadau Cymraeg a Chymreig, fel Urdd y Delyn, Urdd Gobaith Cymru ac Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, corff ymbarél i drio uno’r holl gymdeithasau diwylliannol oedd yn ymgyrchu o blaid y Gymraeg yn y cyfnod.

“Roedd hi o deulu di-Gymraeg, ond roedd y Gymraeg yn bwysig iawn i Mallt; er nad oedd hi’n gwbl rhugl, roedd hi am weld Cymru Gymraeg yn cael ei sefydlu.

“Roedd hi’n gefnogol iawn i sefydlu plaid wleidyddol fyddai’n ymgyrchu dros hunan-lywodraeth i Gymru. Roedd hi wedi cael ei dylanwadu llawer gan genedlaetholwyr yn Iwerddon yn y cyfnod yna, a daeth hi i gysylltiad at H.R Jones, Deiniolen, oedd yn brif drefnydd y blaid newydd.

“Roedd hi’n cael ei hysbrydoli gan Iwerddon, ac roedd merched yn rhan eitha’ blaenllaw o’r frwydr annibyniaeth yn fan’na, ac mi roedd hi’n gweld merched Cymru yn reit ddof o’i gymharu â hynny. Mae ‘na lythyrau ganddi yn gofyn pam fod merched Cymru ddim mor ddewr a gwydn â merched Iwerddon.

“Byddai papur newydd y Blaid, Y Ddraig Goch, ddim wedi dod i fodolaeth oni bai am gyfraniadau ariannol Mallt. Mi gyfrannodd tua £30 i gostau cynhyrchu’r rhifyn cyntaf, sy’n cyfateb i tua £4,000 heddiw, ac roedd hi’n cymryd degau o gopïau o’r Ddraig Goch yn fisol i’w dosbarthu ei hun.”


BBC News

Views: 0

See also  Neil Foden: Council boss under pressure over paedophile head

Check Also

Ex-Everton wing Rhys Hughes relishing Champions League bow with TNS

After leaving Tranmere, Hughes joined Connah’s Quay in August 2024. “Going part-time is different but …

‘Angen defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r efengyl’ – Y Parchedig Glyn Wise

Fe wnaeth Glyn fwynhau paratoi a gwneud ei gymun cyntaf o flaen ei rieni yn …

‘Cydweithio â’r gymuned’ yw’r ffordd i dafarndai Cymru lwyddo

Ychwanegodd Gareth Jones, sy’n gweithio yn y dafarn: “Balans dwi’n meddwl ydy’r gair cywir, ‘da …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Upgrade your collection with our toyota altezza tribute shirt, the perfect blend of style and comfort. How to write better prompts and get more from any ai tool. el obeid : a war crime is happening right now.