Doedd neb wedi clywed gair am y medalau am ddegawdau – nes 29 Gorffennaf eleni pan welodd wŷr Delyth, Owain, post am y medalau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ac erbyn hyn mae Delyth yn gwybod stori’r medalau.
Meddai: “Ar ôl iddi nhw ddiflannu aethon nhw fewn i werthiant mwy neu lai yn syth tua 1958. Ac erbyn hyn dwi wedi cyfarfod y dyn brynodd nhw, Thomas Edwards o’r Bari.
“Symudodd y medalau ddim o’r Bari o gwbl.
“Dyma’r dyn ‘ma yn grwtyn bach gyda’i arian poced yn mynd i’r sêl, gweld nhw, prynu nhw a’u cadw nhw.
“Mae e’n byw yn y Bari a fuodd y medalau yn ei dŷ ers hynny. Deunaw mis yn ôl dyma fe a’i fab yn cael sgwrs a dweud ‘we should return them to the rightful owners.'”
Roedd cysylltiad milwrol gan Thomas Edwards gan ei fod wedi bod yn y llynges a’i fab yn y fyddin.
Ar ôl i’w fab gychwyn ymchwilio i hanes y medalau rhoddodd manylion y medalau ar y cyfryngau cymdeithasol sef yr enw, JM Jones, a’r rhif milwrol ar y medal gan obeithio fyddai rhywun yn adnabod y rhif.
Yn anffodus doedd neb wedi gwneud y cysylltiad gyda thad-cu Delyth ac ar ôl cyfnod dyma Thomas Edwards a’i fab yn rhoi’r gorau i’r syniad a chysylltu gyda hanesydd sy’ â thudalen Facebook o’r enw Medals going home.
Mae Delyth yn esbonio: “Felly gymerodd yr hanesydd y cyfrifoldeb a ‘nath yr hanesydd fynd ar ancestry.com er mwyn creu coeden deuluol i’n ffeindio ni.
“Y peth cyntaf welodd e oedd adroddiad a manylion angladd fy nhad i o’r Western Mail. Oedd e i gyd yn Gymraeg a doedd yr hanesydd ddim yn deall Cymraeg felly mi wnaeth e gyfieithu’r cyfan.
“Roedd enwau’r teulu i gyd yn y papur felly roedd hwnna yn allweddol iddo fe i fynd a’r peth ymlaen ac i greu’r goeden deuluol.”
Doedd gan Delyth ddim syniad fod y gwaith hyn yn digwydd nes i’w wŷr Owain gysylltu gyda hi ar 29 Gorffennaf eleni wedi iddo weld y nodyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn chwilio am deulu John Morgan Jones er mwyn dychwelyd y medalau iddynt.
Meddai Delyth: “Dywedodd Owain mai’r unig beth oedd e eisiau wrthaf i oedd rhif fy nhad-cu yn y fyddin.
“Ac oedd hwnna gyda fi achos pan aeth fy nhad-cu drwy’r ffosydd, roedd e’n ddyn crefyddol ac oedd dau destament yn ei boced e. A ‘nath e ysgrifennu ei rif tu fewn i glawr y testament newydd.
“Peth ofnadwy i ddweud yw dwi’n gwybod pam oedd e wedi ysgrifennu y rhif i lawr.
“Ond daeth e adre o’r rhyfel yn ddiogel ac yn saff. Ac mae’r ddau destament gyda fi adref yn y tŷ.
“Y noson yna es i i ôl y testament – agorais i’r llyfr ac oedd y rhifau yr un peth.
“A dywedodd Owain ‘mae’r medalau yn y Bari’. Oedd hwnna’n fwy o sioc i fi.”
BBC News