google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Y Gymraeg yw un o’r ieithoedd prydferthaf’

Mae’r cyfansoddwr a’r actor enwog, Lin-Manuel Miranda, wedi disgrifio’r Gymraeg fel “un o’r ieithoedd cerddorol mwyaf prydferth erioed” gan ychwanegu y byddai gallu cyfansoddi rhywbeth yn yr iaith yn “gymaint o hwyl”.

Mae’r dyn o America hefyd yn ganwr ac yn enw mawr yn y diwydiant ffilm a cherddoriaeth ac ef sydd wedi cyfansoddi y sioe gerdd Hamilton sydd wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys Gwobr Pulitzer yn 2016.

Dywed Miranda ei fod wedi syrthio mewn cariad â Chymru tra’n ffilmio’r ddrama His Dark Materials i’r BBC yn 2018 ac mae’n llawn canmoliaeth o’r cestyll a’r bwyd yma.

Wrth siarad â Lucy Owen ar BBC Radio Wales ychwanega Miranda nad yw ei ffrindiau yn Llundain mor frwd dros Gaerdydd: “Os ydw i’n berffaith onest, pan glywon nhw fy mod i’n mynd, roedden nhw ychydig yn snobyddlyd am y peth.

“Ac yna fe gyrhaeddon ni ac roedden ni wrth ein bodd, fe wnaethon ni syrthio mewn cariad â’r lle. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffordd o ddod yn ôl – boed trwy waith neu rhwybeth arall.

“Mae gennych chi gastell hyfryd bob 500 troedfedd, bwyd anhygoel, mae’n rhan brydferth o’r byd.”


Source link

Advertisements

See also  Josh Tymon: Defender eyes Premier League return with Swansea City

Check Also

Adran Premier: TNS score late winner to end Wrexham’s 100% record

Sunday, 4 October Wrexham 2-3 The New Saints The New Saints ended Wrexham’s perfect start …

WRC: Elfyn Evans is world champion after late Oliver Solberg crash

1. Elfyn Evans (Great Britain), Toyota, 243 points 2. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, 238 3. …

Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf

Roedd disgwyl i’r rali olaf ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond cafodd ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime