google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Y Gymraeg yn debyg i Tamil’ yn ôl siaradwr newydd o Dde India

Ym mis Ionawr, mae cynhadledd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Met Caerdydd sy’n edrych ar gynaliadwyedd ieithoedd. Am y tro cyntaf erioed, bydd darlithoedd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, Saesneg a Tamil, a fydd yn brofiad newydd i rai academyddion Tamil-eu-hiaith, eglura Raj:

“Mae addysg y ddwy wlad yn debyg, o ran bod yna ysgolion cyfrwng Tamil, fel rhai cyfrwng Gymraeg. Ond ar ôl graddio, mae’n rhaid i fyfyrwyr droi at addysg Saesneg; ychydig bach o gyrsiau prifysgol sydd drwy’r Tamil.

“Ac mae ‘na stigma yn erbyn defnyddio’r iaith mewn amgylchedd academaidd swyddogol. Mae yna reolau answyddogol na ddylech chi ddefnyddio Tamil; mae’n cael ei ystyried yn amhroffesiynol. Mae hi’n iawn i siarad Tamil gyda gwerthwr ar stondin farchnad, ond os wyt ti’n siarad â’r rheolwr banc, gwell defnyddio Saesneg.”

Roedd hi’n syndod i rai academyddion felly, meddai Raj, fod cynhadledd academaidd yn hapus iddyn nhw gyflwyno papurau drwy gyfrwng Tamil, gyda rhai yn cwestiynu pam fod angen gwneud hynny, os ydi pawb yn deall Saesneg:

“Dadl rhai ydi fod yna ddim pwynt addysgu drwy Tamil achos mae’r holl wybodaeth wyddonol a’r datblygiadau technolegol yn digwydd yn Saesneg. Beth ydw i’n ei ddweud ydi, os na fydd siaradwyr iaith gyntaf yn cyfrannu, pwy fydd? Os na fydd siaradwyr Tamil yn cyfrannu at y wybodaeth wyddonol, fydd gennym ni ddim y wybodaeth wyddonol yn yr iaith yna. Dyna beth yw’r bwriad, sef annog y math yna o drafodaeth o fewn y byd academaidd.

“Ac mae o am gael y dair iaith i ddod at ei gilydd, ac i bawb gael yr un profiad o wrando ar yr holl ieithoedd. Bod yn barchus tuag at ieithoedd gwahanol a rhoi’r un cyfle i bawb.”


Source link

Views: 0

See also  Wales v Ireland Six Nations ticket-selling struggles for clubs

Check Also

United Rugby Championship: Leinster 68-14 Ospreys – Irish province warm up for final with emphatic win

Leinster warmed up for next week’s Champions Cup final against Bordeaux-Begles in Bilbao by scoring …

Protestiadau ar draws Cymru dros lygredd carthffosiaeth

Dywedodd Meg Davies o’r elusen Surfers Against Sewage, sydd hefyd yn byw’n lleol, fod y …

Matt Bush overcomes ‘sleepless nights’ to win Euro gold

Matt Bush says he will continue to rise to the challenges he faces in Para-taekwondo …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.