google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Y gantores sy’n perfformio gyda’i llais a’i dwylo… yr un pryd

Advertisements

O’i phrofiadau â’i gŵr, mae Samantha’n gweld fod bwlch mawr yn hygyrchedd beth sydd yn cael ei gynnig i gynulleidfa fyddar o fewn y celfyddydau.

“Dim ond un amser o’r wythnos allwn ni fynd i’r sinema i weld ffilm sydd ag isdeitlau, a hynny ar nos Lun; does ‘na ddim dewis o ffilm, a doedden ni ddim yn gallu mynd yno ar nos Sant Ffolant eleni, oedd ar ddydd Sadwrn.

“A’r un peth â sioeau’r West End; mae o wrth ei fodd â’r theatr, achos ei fod mor weledol, ond mae prinder sioeau sy’n cael eu harwyddo neu ag isdeitlau. Maen nhw’n honni eu bod yn hygyrch achos fod ganddyn nhw system lŵp, ond mae o’n ddwys-fyddar (profoundly deaf) – dydy o ddim yn clywed dim byd – felly dydy o methu defnyddio rheiny.

“Dwi’n gweld mwy o bobl yn arwyddo i gantorion y dyddiau yma, ond o’n i dal yn teimlo’i fod o’n colli llawer o’r emosiwn, gan ei fod yn ddau berson gwahanol wrthi.

“Gallan nhw gyfieithu beth maen nhw’n ei glywed, ond efallai eu bod nhw ddim wir yn deall gwir ystyr y darn neu’n deall y cymeriad.”

A hithau’n gantores broffesiynol, sy’n canu mewn cyngherddau ac operâu ledled Prydain a thu hwnt, sylweddolodd fod modd cynnig agwedd ychwanegol i’w pherfformiadau, sef arwyddo ei chaneuon tra’i bod yn canu.


BBC News

See also  Cymru'n teithio i Montenegro yn disgwyl buddugoliaeth

Check Also

I’ve learned lessons, first minister says after summer budget defeat

At a press conference ap Iorwerth warned of a challenging financial situation and said his …

Dynes wedi marw o drawiad gwres tra’n cerdded ar Yr Wyddfa – cwest

Mae cwest wedi clywed bod dynes 35 oed wedi marw ar fynydd yn Eryri ar …

Newport County sign Michael Adu-Poku, Kion Etete and Matty Jacob

Jacob is the second left-back to arrive this summer after a loan deal for Bournemouth’s …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime