google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y ffrindiau ysgol a’u busnes gwerthu cyfrifiaduron gemau

0836e450 5d74 11f0 9518 ad4f6a7be5be.jpg

Advertisements

Daeth Rhys ac Elis i mewn i’r fenter hefyd a dyma ddechrau arni o ddifri.

Fe ofynnon nhw wrth eu hysgol am unrhyw hen gyfrifiaduron roedden nhw’n cael gwared arnyn nhw – a chael chwech gyda’r holl ddata wedi ei dileu.

Mae cyfrifiaduron sy’n gallu chwarae gemau modern yn wahanol i rai mewn swyddfeydd gan fod angen cardiau graffeg o safon, prosesydd cyflymach a mwy o hapgyrch (RAM).

Felly fe gawson nhw grant gan gronfa Cylchol Menter Môn i brynu’r rhannau angenrheidiol a mynd ar gyrsiau perthnasol. Mae Menter Môn hefyd yn darparu gofod iddyn nhw yn Gisda, elusen sy’n helpu pobl ifanc digartref a bregus, yng Nghaernarfon.

A dros yr wythnosau diwethaf mae’r hogiau wedi bod yn mynd yn syth o’r ysgol i’w gweithdy yn Gisda ddwywaith yr wythnos i uwchraddio’r peiriannau ar gyfer gemau modern.

“‘Da ni ‘di dysgu ar YouTube,” meddai Now. “Nath y gynta’ gymryd tua pedair neu bump awr, ond ‘da ni’n gallu neud un mewn tua hanner hynny rŵan.”

Ac mae ‘na elfen amgylcheddol i’r gwaith hefyd.

“Roedd y PC yma yn mynd i fynd i’r sgip,” meddai Cain, am un o’r cyfrifiaduron. “Felly ‘da ni’n ailgylchu hefyd.”


BBC News

Views: 1

See also  Steve Eaves a'i Driawd teuluol

Check Also

Man, 22, charged with murder after Welshpool death

A 22-year-old has been charged with murder following the death of a man in Welshpool …

Junior World Championship: Wales U20s ring changes for Uruguay

Victory in Tbilisi would set up a shoot-out with the Junior Boks, who face Georgia …

Ethan Galbraith: Swansea City midfielder poised to join Stoke City for eight-figure fee

Ethan Galbraith is poised to leave Swansea City for Stoke City after the Welsh club …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Sunburst rhinestone 20 ounce tumbler.