google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y don newydd o artistiaid ifanc jazz Cymreig

Mae’r gantores Kat Rees o Abertawe yn astudio am ei gradd Meistr yn jazz ar hyn o bryd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ac mae hi a’r Siglo Section – band mawr traddodiadol (big band) jazz wedi rhyddhau caneuon newydd yn yr iaith Gymraeg.

Mae’n debygol iawn mai dyma’r tro cynta’ i’r arddull yma gael cyfansoddiadau gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg.

Dychmygwch Ella Fitzgerald a’i cherddorfa yn canu yn Gymraeg, a dy’ chi ddim yn bell ohoni. Ma’ Cafi Bach yn adrodd hanes gŵr daeth draw i Gymru ar y Windrush, sy’n cwympo mewn cariad, yn setlo ac yna yn agor caffi yn ardal Tiger Bay, Caerdydd.

Mae’r cyfansoddiadau wedi’u trefnu ar gyfer y Siglo Section, big band ifanca’ Cymru, gan ei arweinydd, y trwmpedwr Loz Collier. Ma’ Loz yn weithgar gyda nifer o brosiectau cerddorol ac yn drwmpedwr gyda’r band Afro-Cluster.


Source link

Advertisements

See also  'Teimlo fel fy mod i'n marw' gyda salwch beichiogrwydd difrifol

Check Also

Y cynhyrchydd teledu, Meinir Siencyn, wedi marw yn 48

Fe wnaeth Meinir weithio ar nifer o raglenni teledu gan gynnwys Priodas Pum Mil, Prosiect …

Dyn o Aberfan yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o greu ‘bom petrol cartref’

Mae dyn o Aberfan wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o greu “sylwedd ffrwydrol”. …

Children’s authors to donate to Sally Rooney amid Palestine Action row

“It’s a ridiculous situation… the British government have dug themselves into a very big hole,” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime