google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo mwy o bwerau i Gymru

Cynnig teg yw ffocws y maniffesto, ac i weithiwyr fe allai hynny olygu newidiadau o ran taliadau salwch neu gynnydd yn yr amser a’r arian mae rhieni yn ei gael ar ôl cael plentyn.

Os ‘da chi’n weithiwr ar gytundeb ‘dim oriau’ am fwy na 12 mis, mae’r blaid am roi’r hawl i chi wneud cais am gytundeb sefydlog.

Mae’r maniffesto hefyd yn cyfeirio at gynyddu grymoedd Llywodraeth Cymru.

Mae’r arweinydd, Ed Davey, yn dweud y bydden nhw’n datganoli pwerau’r heddlu i Gymru, rhoi mwy o bwerau benthyg i Lywodraeth Cymru, ac yn datganoli’r grym dros ddarlledu.

Ac fel sydd eisoes yn digwydd yn etholiadau’r Senedd, mae nhw eisiau rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau San Steffan.

Er bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol nod hir dymor o ail ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, nid dyna sydd yn y maniffesto.

Yn hytrach, mae’n son am berthynas llawer agosach, sy’n cael gwared â gymaint o rwystrau â phosib ar gyfer masnach.


Source link

Views: 1

See also  New £33m hospital unit to be built in north Wales

Check Also

Llys yn clywed gan yrrwr car a darodd gar arall gan ladd tad i ddau o blant

Ar ôl y gwrthdrawiad, dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn cofio “deffro,” a chanfod …

Gwenno Llwyd Till: Dwi isho creu ffilmiau sy’n gwneud gwahaniaeth

A hithau wedi bod â diddordeb mewn celf ers yn ifanc, roedd hi wastad yn …

Queen presents medal to seriously ill boy who asked if she had dragon in her castle

Rupert Williams was among six children who attended an event hosted by the Queen at …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
"panduan lengkap harga paving block langsung pabrik 2026 : hemat biaya dengan kualitas standar industri » thetaindomarga sm".