google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pedwar yn yr ysbyty ar ôl datgan ‘digwyddiad mawr’ ar yr A55

Advertisements

Cafodd pedwar o bobl eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A55 prynhawn Sadwrn a welodd digwyddiad mawr yn cael ei ddatgan.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad ger Pentre Helygain yn Sir y Fflint am 15:21.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng lori gymalog a oedd yn teithio ar y ffordd tua’r dwyrain a dau gerbyd oedd yn teithio ar y ffordd tua’r gorllewin.

Cafodd gyrrwr y lori, dyn 58 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus. Mae bellach wedi’i ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd dau berson eu cludo i Stoke – un mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau difrifol – gyda dau arall yn cael eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd y ffordd ar gau am sawl awr prynhawn Sadwrn tra roedd yr Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig yn cynnal eu hymchwiliad cychwynnol.

Fe wnaeth lôn ailagor i’r ddau gyfeiriad toc wedi hanner nos ac mae cyfyngiad cyflymder o 40 mya bellach ar waith.

Mae Sarjant Danielle Ashley o’r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio am dystion.

Dywedodd: “Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi eu manylion inni yn dilyn gwrthdrawiad ddoe, fodd bynnag rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau dashcam ychydig cyn i’r gwrthdrawiad ddigwydd, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”


BBC News

Views: 1

See also  Constipation: The importance of talking about healthy poo

Check Also

Florian Bianchini: Future doubt as forward left out of Swansea City tour squad

They are due to return to pre-season training after the trip, while the other Swan …

North Wales Police officer developed PTSD over handling of affair complaint, court told

A consultant psychiatrist has told a court that a former North Wales Police officer developed …

St Mellons crash: Man charged with fraud relating to car MOT

A 47-year-old man has been charged with fraud relating to the car involved in a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Analgesics which act to relieve pain.