google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymry fu’n rasio ceir cyflym F1

Yn ystod y 1960au y dechreuodd Alan Rees ymwneud â Fformiwla Un hefyd.

Er mai gyrrwr Fformiwla Dau oedd ef yn bennaf, cymerodd y gŵr o bentref Langstone, ger Casnewydd, ran mewn tair ras Pencampwriaeth y Byd ar gyfer y ceir cyflymach yn ystod tymhorau 1966 a 1967, gan orffen yn seithfed yn yr olaf ohonynt, sef Grand Prix yr Almaen ar 6 Awst 1967.

Roedd honno’n ymdrech lew, yn enwedig o ystyried mai car Brabham-Ford F2 – gydag injan lawer llai pwerus na moduron y rhan fwyaf o’i wrthwynebwyr – oedd Rees wedi ei lywio o amgylch y Nürburgring.

Wedi iddo roi’r gorau i yrru’n gystadleuol ei hun, cydweithiodd y gŵr o’r de ddwyrain gyda Max Mosley ac eraill, i sefydlu March Engineering. Ond tra’r oedd y tîm rasio newydd hwnnw’n prysur ennill ei blwyf fel un o wneuthurwyr mwyaf blaenllaw’r gylchdaith Fformiwla Un ar ddechrau’r 1970au, gadawodd Rees i ymuno â Shadow.

Ar ôl bod yn bennaeth ar Tom Pryce yn ystod ei gyfnod yno, cydsefydlodd y Cymro dîm rasio arall ym 1977 ac ef oedd rheolwr cyntaf Arrows Grand Prix International.

Aeth ymlaen i ofalu am nifer o yrwyr adnabyddus – megis Riccardo Patrese, Jacques Villeneuve Sr. a Gerhard Berger – yn ystod ei ddegawd a hanner yn y swydd honno, cyn iddo roi’r gorau iddi ym 1991.

Bu farw Alan Rees yn gynharach eleni, yn 86 oed. Roedd ei fab, Paul, hefyd yn yrrwr rasio: cystadlodd ef ar gylchdaith Fformiwla Dau y Byd yn 2010, cyn canolbwyntio’n bennaf ar rasys Porsche Supercup am rai blynyddoedd wedi hynny.


Source link

Views: 0

See also  Bethan Rhys Roberts yn ennill gwobr arbennig BAFTA Cymru 2025

Check Also

Tom Jones had shoes and socks stolen by fans, recalls The Script star

Sir Tom Jones was paddling in the sea in Dublin when fans made off with …

Man accused of being in child sexual exploitation ring says 15-year-old consented

Ziaullah Badshah is one of five people who deny claims around the sexual exploitation of …

Ethol esgob newydd Bangor wedi deuddydd o drafod

Mae’r Tra Pharchedig Manon Ceridwen James wedi cael ei hethol yn esgob newydd Bangor. Ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Heavy equipment transport genesee mi.