google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymro sydd â ‘digon o dalent i guro Luke Littler’

Advertisements

Mae gan David Davies “ddigon o dalent i guro Luke Littler” yn ôl un o’i gyd-chwaraewyr dartiau.

Mae Davies, 40 oed, o Ddinbych yn paratoi i chwarae ei gêm gyntaf erioed ym Mhencampwriaeth Dartiau’r Byd ddydd Sadwrn ar ôl ennill twrnamaint rhagbrofol y DU ac Iwerddon ddechrau fis Tachwedd.

“Dwi mor gyffrous, dwi’n nerfus, dwi jyst methu aros,” meddai Davies wrth siarad gyda Cymru Fyw.

“Mae’n amhosib gwybod sut mae’n mynd i fynd.

“Dwi’n chwarae’n dda ond ti’n gallu troi lan wedi ennill y 100 gêm ddiwethaf a cholli.

“Mae popeth ar y diwrnod.”

Ond yn ôl Deian Roberts, sy’n dod o ardal Corwen yn Sir Ddinbych ac sydd wedi cynrychioli Cymru ochr yn ochr â Davies yn y gorffennol, mae ganddo siawns go dda o lwyddo.

“Mae o’n chwarae’n reit dda ar y funud ac mae o wedi cael blwyddyn arbennig yn gyffredinol,” meddai Deian.

“Mae o wedi ennill sawl cystadleuaeth wahanol, gan gynnwys cwpan y byd gyda Chymru, felly mae o reit ar dop ei gêm.”


BBC News

See also  Wales goes it alone and delays bottle return scheme

Check Also

Prif Weinidog Cymru yn dweud na fyddai’n derbyn arian o’r byd crypto

Bydd aelodau’r cabinet nawr yn edrych ar ble all y toriadau hynny ddigwydd mewn trafodaethau …

Reform-style donations rejected by Wales’ first minister

Wales’ First Minister Rhun ap Iorwerth has said he would not accept huge political donations …

Enwau etholaethau’r Senedd i gael eu hadolygu a’u newid o bosib

Crëwyd y 16 etholaeth newydd drwy gyfuno etholaethau seneddol y DU, sy’n cael eu defnyddio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime