google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymro ddysgodd Gymraeg ar ôl symud i’r Eidal

Fe symudodd Philip a’i wraig i’r Eidal yn 2012 wedi iddo golli ei waith yn ystod yr argyfwng economaidd.

Aeth i Fenis i ddysgu Saesneg i Eidalwyr ac mae o bellach yn awdur nofelau ditectif wedi eu lleoli yn y ddinas fyd-enwog.

Wedi ei fagu yn Abertawe, Dinbych y Pysgod a Phenfro, roedd wedi dysgu Cymraeg pan oedd o yn yr ysgol yn yr 1980au.

Ond roedd yn Gymraeg ffurfiol, meddai, a doedd o methu sgwrsio yn yr iaith – ac roedd pedwar degawd wedi mynd heibio.

“Ar ôl marw fy mam a fy nhad, ‘nes i sylweddoli does dim perthnasau ‘da fi yng Nghymru nawr a dwi’n moyn cadw cysylltiad gyda Chymru, a nes i benderfynu dysgu Cymraeg ar-lein,” meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

“Nes i ddechrau gyda Duolingo wrth gwrs – ond a bod yn onest, dwi ddim yn hoff iawn o Duolingo.

“Nes i ddysgu gyda Say Something in Welsh – dwi’n hoffi Say Something in Welsh, mae’n ffantastig – a dysgu Cymraeg ar-lein.

“Ond y peth pwysicaf i fi ydi bob dydd dwi’n gwrando ar Radio Cymru, dwi’n gwylio S4C, darllen newyddion, darllen papur newydd a dwi’n teimlo mai darllen, edrych ar y teledu a gwrando ar radio ydi’r peth pwysicaf.”


BBC News

Advertisements

See also  Will Reed: Fly-half signs new Dragons deal

Check Also

‘Hen bryd i’r Gymraeg gael cyfartaledd’ o ran oriau darlledu newyddion

Yr wythnos hon mae Cymdeithas Yr Iaith wedi cyfarfod â phenaethiaid BBC Cymru i leisio …

Côr Meibion Bro Aled yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu

Ers ei sefydlu mae’r côr wedi rhyddhau pedwar albwm ac maen nhw’n mwynhau canu caneuon …

Kelly o’r Felinheli: Newid bywyd ar ôl bod ar heroin am 25 mlynedd

Mae ei gweithiau yn aml yn cael eu hysbrydoli gan natur. “Dwi’n mynd allan i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime