google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Y Cymro a oedd yn fentor ar bencampwr newydd Fformiwla 1

“Rwy’n dod o Ddoc Penfro’n wreiddiol, a ‘nes i symud lawr i Bournemouth tua 30 mlynedd yn ôl ar gyfer gwaith,” esboniai Rob.

“Pan o’n i adre’n Sir Benfro bocsio oedd y gamp o’n i’n hoffi, ac o’n i’n hyfforddi yn ogystal â bocsio fy hun.

“O’n i’n arfer mynd i ffwrdd dipyn gyda’r clwb bocsio – Iwerddon, Yr Almaen, Gwlad Belg, a llefydd eraill.”

Roedd Rob yn hyfforddi tad Scott Gammer – bocsiwr adnabyddus yng ngorllewin Cymru a chyn-bencampwr pwysau trwm Prydain.

“Rwy’n cofio gornest cynta’ Scott pan oedden ni yn Iwerddon, a dim ond wyth mlwydd oed oedd e.

“O’n i’n lwcus i gael pobl dda yn fy hyfforddi – Roy Witts lawr ym Mhenfro ac yna Graham Brockway o Bont Myrddin, a oedd yn hynod ysbrydoledig.”

Mae Rob wedi dychwelyd i hyfforddi bocsio ers tua thair blynedd, gan wneud hynny mewn campfa yn ardal Poole.


BBC News

Advertisements

See also  Swansea Bay maternity changes demanded after critical review

Check Also

Agor hen glo yn datrys dirgelwch ar ôl 400 mlynedd

Dywedodd Dr David Williams, cydymaith ymchwil yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, ei fod yn “amheus” …

Bygythiad tanau gwyllt yn ‘arswydus’ medd y Tywysog William

Eglurodd Kath Edwards o Plant y Cymoedd bod gwirfoddolwyr lleol wedi cadw’r ganolfan yn agored …

Prince William says climate change makes UK wildfire risk terrifying

There is a “terrifying prospect” of more UK wildfires in future due to climate change …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime