google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y ci heddlu ddaeth o Lerpwl i Gymru (a dechrau dysgu Cymraeg!)

Advertisements

Wrth i Gordon ac Aled sgwrsio roedd Sarjant Sion Parry yn gweithio gyda Kilo, ei gi newydd.

Bu Kilo yn gweithio am gyfnod gyda Heddlu Lerpwl cyn symud i Gymru yn ddiweddar. Gall hyfforddi ci heddlu gymryd misoedd lawer, ond oherwydd ei brofiad mae disgwyl y bydd Kilo yn barod i ddechrau gweithio eto ymhen ychydig wythnosau.

Dywedodd Sion: “Fuodd o’n gweithio yn Lerpwl ac wedi dal un neu ddau o bethau drwg yn fanna so mae ganddo fo track record go dda.

“Rwan mae o hefo fi a ‘da ni’n cael cyfle i ddod i nabod ein gilydd ac i mi ddysgu ychydig o Gymraeg iddo fo. Dwi’n dechra galw fo’n Caio… swnio’n well tydi!

“Mae’r cŵn yma yn rhan o’n teulu ni – yn dod adra hefo ni ar ddiwedd bob shifft. Maen nhw’n byw hefo ni tan ddiwedd eu gwasanaeth ac yna mae elusen pwysig Paws Off Duty yn camu fewn.

“Mae’r cynnig yna bob tro i ni gadw’r ci, ond rhan amla’ ‘da ni’n cymryd ci arall ac mae’n gallu mynd yn ormod.

“Mae’r elusen wedyn yn gofyn i’r cyhoedd gartrefu’r cŵn ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth iddyn nhw pan mae hynny’n digwydd.”

Fe wnaeth ci blaenorol Sarjant Parry – Luna – ymddeol yn ddiweddar ac mae bellach yn byw ar fferm yn Sir Caer.

Mae Sion yn derbyn lluniau a newyddion gan y perchnogion newydd er mwyn cadw’r cysylltiad.


BBC News

Views: 1

See also  Test Match Special Podcast

Check Also

Cyhoeddi fersiwn Gymraeg o ffilm eiconig Star Wars o 1977

Mae’r cast hefyd yn cynnwys Aimee-Ffion Edwards fel y Dywysoges Leia, Mark Lewis Jones, fu’n …

Fifa: McAllister proud of Wales’ stance against Infantino

Uefa vice-president Laura McAllister says she is proud that Wales were the first home nation …

Star Wars dubbed in Welsh for the first time to celebrate landmark anniversary

Star Wars is to be dubbed into Welsh for the first time as the classic …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfa pod system .