google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Y Chwarelwr: 90 mlynedd ers y ffilm lafar gyntaf yn Gymraeg

Ifor sy’n egluro sut daeth ar draws y ffilm am y tro cyntaf: “O’n i’n ffilimio rhyw raglen ddogfen ym Mlaenau Ffestiniog a nes i ddigwydd taro ar ddwy oedd yn gysylltiedig â chwmni John Ellis Williams.

“John Ellis Williams oedd un o gyfarwyddwyr y ffilm efo Ifan ab Owen Edwards ac aelodau o’i gwmni o oedd yr actorion, a felly ges i fy hudo gan y peth.

“Mae’n anhygoel i feddwl fod dau mor ddibrofiad wedi mynd ati a neud rwbath sydd ar sawl lefel yn llwyddiannus, ac ar lefelau eraill, ella ddim mor llwyddiannus.”

Ac roedd swm sylweddol o bres tu ôl i’r cynhyrchiad. Cost y ffilm oedd £2,900 – swm a ddychrynodd J. Ellis Williams, ond neges Ifan iddo oedd, ‘Da chi, peidiwch â phoeni am y pres. Ymlaen â’r gwaith’.

Prynodd Ifan gamera, gwerth can punt o ffilm a dau daflunydd ag arian a roddwyd gan J.M. Howell, Aberdyfi, un o noddwyr hael yr Urdd yn nyddiau cynnar y mudiad.

“Roedd ganddo fo hyd yn oed fan Morris 8 ail law er mwyn creu rhyw fath o sinema deithiol; mynd â’r ffilm o le i le o gwmpas Cymru,” eglura Ifor.

“Gafodd o’r pres i ‘neud y ffilm ym mis Chwefror, erbyn diwadd mis Mawrth oedd John Ellis Williams wedi ‘neud y sgript iddo fo. Erbyn diwadd mis Ebrill oedd o ‘di cychwyn ffilmio ac ym mis Hydref gafodd y peth ei phremiêr cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog, felly mae’n rhaid i ni edmygu eu hegni nhw os nad dim byd arall.”


BBC News

Advertisements

See also  North Wales Police officer accused of groping colleagues at party in Caernarfon

Check Also

Seiclo 800km i helpu teulu ffrind gorau ei fab frwydro cyflwr prin

Ac mae hyn er gwaetha’r ffaith bod Dean yn byw gyda Duchenne Muscular Dystrophy, cyflwr …

‘Mae gorfod cael yr heddlu i redeg gyda ni yn dangos maint y broblem’

Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i fenywod wneud ffrindiau newydd, cael cefnogaeth a mwynhau rhedeg …

Agor hen glo yn datrys dirgelwch ar ôl 400 mlynedd

Dywedodd Dr David Williams, cydymaith ymchwil yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, ei fod yn “amheus” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime