google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Wrth fy modd’ cael cydnabyddiaeth am godi miloedd i elusen

54d4d630 3409 11f0 8944 2b1dd2bd7018.jpg

Advertisements

“Mae’n anrhydedd mawr,” meddai Meilyr a gafodd ei anrhydeddu â’r wisg werdd y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

“Fi mor browd – ac mae’n bwysig cofio beth mae’n bosib ei wneud. Fi wrth fy modd.”

Mae ei rieni, Heather a’i gŵr Gwyndaf, wedi bod yn ei gefnogi ers iddyn nhw ei fabwysiadu yn blentyn pum mis oed.

“Pan mae rhywun yn cael plentyn efo anghenion arbennig, y peth cynta maen nhw’n weld yw bod y dyfodol falle’n edrych yn dywyll,” meddai ei fam Heather.

“Ond gyda rhywun fel Meilyr, mae e’n gallu dangos beth mae pobl yn gallu gwneud.

“Daeth Meilyr adref o’r ysgol pan oedd e tua wyth mlwydd oed a dweud bod rhai o’i ffrindiau’n cael gwersi cerddorol,” ychwanegodd.

“Gofynnais iddo pa fath o offerynnau oedden nhw’n chwarae – roedd rhai wedi dewis trwmped, fiolin ac yn y blaen a dyma fi’n gofyn i Meilyr ‘Fyddet ti’n hoffi dysgu ryw offeryn?’

“‘O bydde,’ meddai fe – a wedyn, wedi meddwl bach, dyma fe’n dweud: ‘Y piano.'”

Cysylltodd Heather ag athrawes leol – er ei bod eisoes yn llawn – a gofynnodd am un wers brawf i weld a oedd gan Meilyr botensial.

“Do’n i ddim eisiau prynu piano ac wedyn sylweddoli nad oedd ganddo unrhyw glem,” meddai’n onest.

“Ond ar ôl hanner awr gyda’r athrawes, dyma hi’n dweud: ‘Dewch yn ôl wythnos nesaf.’ A dyna sut y dechreuodd e – a dyw e ddim wedi edrych yn ôl.”


BBC News

Views: 0

See also  Foo Fighters directors transform Caerphilly workmen's hall

Check Also

Dau yn y llys wedi’u cyhuddo o fasnachu pobl ifanc i Wlad Thai

Mae’r ddau ddyn ifanc yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai ac yn cael …

Ysgol Charlotte Church yn wynebu cau ar ôl agor heb ganiatâd cynllunio

Nod The Awen Project yw rhoi amgylchedd i blant “lle maen nhw’n teimlo eu bod …

Charlotte Church forest school could close over fears for the environment

A forest school set up by singer Charlotte Church on a former pig farm might …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa kit.