google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad awtomatig i Adran Un

Mae CPD Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol yn dilyn buddugoliaeth swmpus ar y Cae Ras.

Pum pwynt o’u tri gêm olaf roedd tîm Phil Parkinson eu hangen i sicrhau dyrchafiad awtomatig i Adran Un.

Ond does dim angen poeni mwyach am ganlyniadau’r gemau i ddod yn erbyn Crewe Alexandra a Stockport County wedi iddyn nhw drechu Forest Green Rovers 6-0 ddydd Sadwrn.

Gydag 82 o bwyntiau, mae bellach yn fathemategol amhosib i Wrecsam beidio bod yn nhri safle uchaf Adran Dau.

Roedd cefnogwyr yn croesi bysedd wrth gyrraedd y Cae Ras ddydd Sadwrn gan wybod bod hi’n bosib y byddai’r tîm yn sicrhau’r pwyntiau angenrheidiol i godi adran gyda dwy gêm yn weddill.

Un peth oedd sicrhau triphwynt yn erbyn y tîm ar waelod Adran Dau – roedd hefyd angen i MK Dons a Barrow golli eu gemau nhw.

Roedd hi’n argoeli’n dda bod y nod o fewn cyrraedd cyn diwedd yr hanner cyntaf yn dilyn goliau Elliot Lee (17), Paul Mullin (23 a 44) a gôl i’w rwyd ei hun gan amddiffynnwr yr ymwelwyr, Ryan Innis (33).

Sgoriodd Ryan Barnett 63) a’r eilydd Jack Marriott (84) yn yr ail hanner – ac wrth gadw golwg ar gemau’r ddau dîm, roedd hi’n amlwg ymhell cyn y chwiban olaf nad oedd y naill na’r llall am atal Wrecsam rhag cam nesaf pennod hynod gyffrous yn hanes y clwb.

Fe gollodd MK Dons 4-1 i Mansfield ac fe drechodd Gillingham Barrow 3-0.

Bu’n rhaid aros 15 mlynedd am ddyrchafiad o’r Gynghrair Genedlaethol – ond blwyddyn yn unig i godi unwaith yn rhagor o Adran Dau.

Bydd Wrecsam nawr yn chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr y tymor nesaf am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd.

Fe heidiodd y cefnogwyr cartref i’r cae pan ddaeth y gêm i ben – dau absenoldeb amlwg oedd yr actorion Ryan Reynolds a Ron McElhenney sydd wedi dod â gymaint o sylw a llwyddiant i’r clwb ers eu penderfyniad rhyfeddol i’w brynu.

Wrth i Wrecsam sicrhau dau ddyrchafiad yn olynol am y tro cyntaf yn ei hanes, dywedodd McElhenney ar y cyfryngau cymdeithasol: “Dim geiriau.”


Source link

Advertisements

See also  Ymchwilio i honiad fod tîm pêl-droed wedi'u 'gwawdio am siarad Cymraeg'

Check Also

Track Cycling World Championships: Emma Finucane will ‘come back fighting’ after narrowly missing gold in Shanghai

Emma Finucane said she will “come back fighting” for gold medals after narrowly missing out …

Aberfan: Atgofion y gweinidog a’r disgybl ysgol fu yno

Roedd Bodfan Jenkins yn yr ysgol pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd. “Oedd rywbeth …

Gwleidydd Reform yn defnyddio sbectol clyfar i wneud areithiau yn y Senedd

Mae nifer o bryderon ynghylch defnyddio’r dechnoleg – yn enwedig sbectolau sydd â chamera ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime