google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Wrecsam i groesawu Chelsea ym mhumed rownd Cwpan yr FA

Fe fydd Wrecsam yn wynebu Chelsea ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr.

Fe fydd y Dreigiau’n croesawu’r cewri o Uwch Gynghrair Lloegr ar benwythnos 7 Mawrth – gyda’r union ddyddiad eto i’w gadarnhau.

Sicrhaodd y Dreigiau eu lle yn yr het ar ôl trechu Ipswich Town o gôl i ddim ar y Cae Ras nos Wener.

Dyma’r tro cyntaf i Wrecsam gyrraedd y bumed rownd ers bron i 30 mlynedd.

Brian Flynn oedd y rheolwr y tro diwethaf iddyn nhw gyrraedd y pwynt yma’n y gystadleuaeth ym mis Chwefror 1997 – pan enillon nhw o 3-1 yn erbyn Birmingham City.

Wrecsam yw’r unig dîm o Gymru sydd ar ôl yn y gystadleuaeth ar ôl i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd golli mewn rowndiau blaenorol.


BBC News

Advertisements

See also  Gwaharddiad Cymru ar fagiau siopa untro wedi'i ohirio

Check Also

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Dolly Parton i ymddangos ar fersiwn newydd o Jolene – yn Gymraeg

Mae’r fideo hefyd yn dangos Jada gyda Dolly yn cytuno i ganu ar y trac, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime