google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sefydlu eisteddfod leol wedi Prifwyl lwyddiannus Pontypridd

Yr wythnos ddiwethaf ar Ddiwrnod Shw’mae Su’mae fe gafodd Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod eu cyhoeddi – gwobrau sy’n cydnabod y defnydd a wnaed ac a wneir gan fusnesau ardal Rhondda Cynon Taf o’r Gymraeg a’u croeso i’r Eisteddfod.

Mae’r gwobrau yn bartneriaeth rhwng Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, yr Eisteddfod Genedlaethol, Helo Blod, Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Ymbweru Bro, ac maen nhw yn rhan o waddol yr Eisteddfod.

Dywedodd Osian Rowlands, prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf: “Roedd yr Eisteddfod eleni ymysg y goreuon ers blynyddoedd lawer, ac roedd tref Pontypridd a’r ardal gyfan yn rhan enfawr o’i llwyddiant.

“Cafodd pawb a ddaeth i’r ardal groeso ardderchog gan fusnesau a chwmnïau ar hyd a lled y dalgylch.

“Rydyn ni’n awyddus i ddathlu hyn drwy lansio’r cynllun gwobrau busnes cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r Eisteddfod fel y sbardun i annog rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn y sector preifat.

“Diolch i’r holl bartneriaid am eu hawydd i fod yn rhan o’r cynllun sy’n rhan o waddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.”


Source link

Advertisements

See also  Josh Roberts: Gwrandawiad yn clywed pryderon gan ei deulu

Check Also

Cwis: Rhedeg Pellter Hir – BBC Cymru Fyw

Ddydd Sul fe fydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal yn y brifddinas. Mae …

Photos of 'forgotten' war heroes tracked down after plea

Hundreds of photos have been found and placed on the graves through finding soldiers’ relatives …

Plaid Cymru aim for new FTSE 100 company within 10 years

The Plaid Cymru government will create the economic conditions for another Welsh company to join …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime