google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Amser addasu cerddoriaeth werin i ddenu cynulleidfa newydd?

Advertisements

“O’n i’n gwneud lot gyda cherddoriaeth traddodiadol o Iwerddon a’r Alban, ac yn meddwl i fy hun pam nad oedd cerddoriaeth gwerin Cymraeg mor fywiog a phoblogaidd â rheiny?”

Dywed Kathy ei bod hefyd wedi cael ysbrydoliaeth gan draddodiadau Llydaweg, gan weld drosti ei hun pa mor boblogaidd yw canu gwerin yno, a pha mor greadigol y mae pobl ifanc gyda’r math yna o gerddoriaeth.

“Dwi’n deall ei fod yn hynod bwysig i gadw’r iaith a’r diwylliant gyda’r gerddoriaeth, ond weithiau mae’n gallu rhwystro pobl i fod yn greadigol gyda fe.

“Mae’r holl gerddoriaeth Gymreig traddodiadol wedi ei gadw neu diogelu yn y Gymraeg, a dydi’r puryddion heb adael i bobl chwarae o gwmpas gyda fe i fod yn onest, a dwi ‘di dod ar draws hyn dro ar ôl tro.

“A dwi’n deall pam, mae’r Gymraeg dan fygythiad – er i’w gymharu efo’r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban mae’r Gymraeg yn gwneud yn eithriadol o dda!”

Mae Kathy o’r farn bod rhai agweddau o ddiwylliant Cymru’n dioddef mwy na’i gilydd, yn enwedig o fewn y byd dawns.

“Mae elfennau arall hefyd, achos yn Llydaw er enghraifft mae 200 neu 300 mewn Fest-Noz (parti Llydaweg traddodiadol gyda llawer o ddawnsio), ond ‘dan ni’n stryglo i gael 20 i dwmpath dawns yng Nghymru, a bydd y cyfan yn diflannu os nad ydyn ni’n atynnu mwy o bobl ifanc.”


BBC News

See also  Cymru Premier: Wales fail to regain European place after poor results

Check Also

Ateb y Galw: Ant Evans

Yr ieithydd a’r awdur Ant Evans, sy’n wreiddiol o Harlech ond sydd bellach yn byw …

Prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyfarfod yng Nghaerdydd

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y prif weinidog yn benderfynol …

Disgwyl rhyddhau dyn gafodd ei garcharu am 21 mlynedd am ddwyn ffôn

Cafodd dedfrydau IPP eu cyflwyno yn 2005 er mwyn gallu cadw troseddwyr difrifol, oedd yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime