google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Wrecsam allan o Gwpan yr FA ar ôl colli yn erbyn Chelsea

Advertisements

Fel y bysai Phil Parkinson wedi disgwyl cyn y gêm, roedd Chelsea yn rheoli’r meddiant o’r gic gyntaf.

Ond roedd pethau’n ddigon cyfforddus i Wrecsam am y chwarter awr gyntaf, gyda’r pwysau’n cael ei leddfu yn aml wrth iddyn nhw ennill y bêl yn ôl yn hanner y gwrthwynebwyr.

Gyda 17 munud ar y cloc a’r meddiant gyda Wrecsam, fe wnaeth yr amddiffynnwr Callum Doyle saethu pêl wych dros y top tuag at Sam Smith a enillodd ei frwydr gyda Tosin Adarabioyo cyn gyrru’r bêl heibio’r golwr ac i mewn i’r rhwyd.

Er bod Chelsea yn parhau i reoli’r meddiant, roedd gwaith pwyso oddi ar y bêl gan Wrecsam yn gwneud bywyd yn anodd iddyn nhw wrth i ymosodiadau ddod i ben cyn dechrau.

Ar ôl 30 munud, cafodd Smith gyfle i ymestyn y sgôr ond iddo ddisgyn yn y bocs ar ôl rhediad addawol o’r asgell chwith tua’r canol.

Ychydig o funudau wedyn daeth ergyd cyntaf Chelsea o’r gêm ond fe wnaeth y golwr Arthur Okonkwo redeg oddi ar ei lein yn gynnar i neidio ar y bêl wrth iddyn nhw dorri trwy’r amddiffyn wrth ymyl y bocs.

Ychydig o funudau wedyn, fe wnaeth Liam Delap basio’r bêl i Garnacho a ergydiodd wrth gamu i mewn o’r asgell chwith.

Aeth y bêl heibio Okonkwo ac am eiliad roedd George Thomason yn meddwl ei fod wedi atal gôl ond i’r bel a gliriodd oddi ar y lein daro Okonkwo yn ôl i mewn i’r rhwyd i wneud y sgôr yn 1-1 ar ddiwedd yr hanner.


BBC News

See also  Cymraes, 21, fu farw yn Awstralia yn 'berffaith ym mhob ffordd'

Check Also

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Wrexham news: Red Dragons seek ‘horrible’ streak amid defensive issues

But it has been far more settled this term, with Zak Vyner, Hyam and Callum …

Susie Dent says she is determined to learn the Welsh language

Susie Dent has been a familiar face on television for more than 30 years, sitting …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime