google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Undeb Unite wedi gohirio streic gweithwyr dur Tata

Byddai’r gweithredu diwydiannol wedi golygu bod tua 1,500 o staff Tata Steel yn streicio dros gynlluniau’r cwmni i dorri miloedd o swyddi.

Hwn fyddai’r tro cyntaf mewn 40 mlynedd i weithwyr dur yn y DU fynd ar streic.

Fe wnaeth y Llywodraeth addo grant o £500 miliwn tuag at ddatblygu ffwrnais drydan newydd gwerth £1.25 biliwn, ac er yn cynhyrchu digon o egni, does dim angen cymaint o staff i’w rhedeg.

Bydd cau’r ddwy ffwrnais yn golygu colli 2,800 o swyddi tra byddai cadw un o’r ffwrneisi yn golygu diogelu 2,000 o’r swyddi os byddai’r ffwrnais yn weithredol nes bod y ffwrnais drydan yn cael ei hadeiladu ar y safle.

Dywed ffynhonnell wrth y BBC fod Unite wedi rhoi’r esgus perffaith i gau Tata yn gynnar, gan golli nifer o swyddi.

Ond dywed swyddogion Unite bod eu gweithredoedd wedi “helpu i ffocysu meddyliau pobl” ac yn dweud y bydd trafodaethau pellach wedi’r etholiad cyffredinol.

Er hyn, mewn llythyr – sydd wedi ei weld gan y BBC – mae’n amlwg fod y cwmni eisoes wedi cytuno i drafodaethau pellach yn dilyn yr etholiad.

Dywed swyddogion o undebau eraill fod Unite wedi achosi “dim byd ond anrhefn ac arian i’w haelodau”.


Source link

Views: 1

See also  Challenge Cup: Angus O'Brien hunts another Dragons upset at Stade Francais

Check Also

Osprey swallows fish hook in nest with newborn chicks

An osprey is being closely monitored after swallowing a fish hook attached to a trout. …

'Tornado-like flame' as smoke impacts major commuter route in rush hour

People are told to keep their windows closed due to smoke from an industrial fire. …

Teyrnged i ddyn 18 oed ‘oedd â’i holl fywyd o’i flaen’

Dywedodd ei deulu fod Dominic Bailey newydd gwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. Coming.