google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Undeb Rygbi Cymru yn ‘derbyn cyfrifoldeb’ am ddirwywiad y tîm cenedlaethol

Cafodd Ms Tierney ei phenodi yn brif weithredwr ym mis Ionawr 2023.

Hi oedd olynydd parhaol Steve Phillips, a ymddiswyddodd ym mis Ionawr yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru i honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.

“Dyma’r peth anoddaf i mi ei wneud erioed. Wrth gwrs rydw i wedi ystyried fy nyfodol yn y swydd, ond dwi wir yn credu y bydd yr hyn yr ydym ni yn ei wneud yn gwella’r sefyllfa, a pe bawn yn gadael, byddai hynny yn arafu’r cyfan.

“Ydi rhywfaint o’r feirniadaeth bersonol wedi cael effaith arna i? Ydi, mae delio gyda hynny yn anodd iawn, ond rydw i eisiau bod yma am flynyddoedd i ddod.”

Yn ogystal, mae Ms Tierney yn awgrymu ei bod yn difaru peidio gwneud sylw cyhoeddus wedi gêm olaf y Chwe Gwlad – gyda chyn-gadeirydd yr undeb, Gareth Davies a chyn-chwaraewyr yr Alban, John Barclay yn cyhuddo URC o beidio ag amddiffyn y prif hyfforddwr dros dro, Matt Sherratt.

“Rydych chi’n gorfod gwneud penderfyniadau drwy’r amser, ac rydych chi’n dysgu o hynny. Doeddwn i ddim yn cuddio, ond roedden ni wedi cytuno ar broses, ac fe wnaethon ni gadw at y broses honno.”


BBC News

Advertisements

See also  Seven men in court over barber shop turf war

Check Also

King Charles and Queen Camilla to officially open Senedd as poet dropped from ceremony

King Charles III and Queen Camilla will officially open the Senedd’s seventh term on Thursday …

Crossrail costs soar by £20m and man 'fixated' on police officer

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Contraceptive coil ‘helped uncover my ovarian cancer’

When Caroline Bailey was suffering with sharp, stabbing pains in her stomach, she thought it …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime