google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tŷ’r Arglwyddi: ‘Dim chwarae teg i Gymru’

24950ea0 1b99 11f0 b287 63d6908c4e5f.jpg

Bydd unrhyw un sy’n ymweld â’r Senedd yn San Steffan yn sylwi bod yna arferion diddorol – arferion digon rhyfedd, medd rhai. Mae traddodiadau o’r fath wedi’u hymgorffori’n ddwfn yng ngwaith Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Ond mae yna wahaniaethau o fewn y ddwy siambr.

Mae rheolau a thraddodiadau’r Arglwyddi wedi’u seilio mewn dogfen sy’n deillio o 1621, sef Rheolau Sefydlog Tŷ’r Arglwyddi sy’n Ymwneud â Busnes Cyhoeddus (Standing Orders of the House of Lords Relating to Public Business).

Mae’r farn ynghylch a yw traddodiadau o’r fath yn angenrheidiol i waith yr Arglwyddi yn amrywio, gan ddibynnu ar bwy rydych chi’n gofyn. Mae rhai yn dadlau bod angen moderneiddio siambr yr Arglwyddi, eraill yn mynnu bod eu harferion yn hanesyddol bwysig.

Er mwyn deall rhai o’r arferion dadleuol yma efallai bod gwerth ystyried yr hanes.

Mae’r Senedd yn dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif, gyda dau Dŷ Seneddol yn dod i’r amlwg yn y 14eg ganrif. Yn ffurfio Tŷ’r Arglwyddi oedd yr archesgobion, esgobion, abatiaid (Arglwyddi Ysbrydol) ac yr uchelwyr (Arglwyddi Temporal). Dechreuodd cynrychiolwyr o’r trefi a’r siroedd gyfarfod ar wahân fel Tŷ’r Cyffredin.

O’r 15fed ganrif, roedd aelodaeth yr uchelwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi bron yn gwbl seiliedig ar drefn o etifeddiaeth.

Wrth gwrs, mae’r siambr wedi esblygu dros y canrifoedd, gyda’r nifer o aelodau yn cynyddu. Mae’r ddadl dros ddiwygio’r siambr wedi bod dan sylw ers degawdau lawer.


BBC News

Advertisements

See also  Carcharu dau am dyfu £2m o ganabis mewn hen ysgol yn Llandysul

Check Also

Nations Championship: Eddie Jones challenges Japan to create history against Wales

Japan have handed a debut to fly-half Riku Kitahara as part of a half-back pairing …

Conwy school ‘failed to deal’ with racist bullying says father

The family say the council offered to meet only after journalists approached them about the …

Moment paedophile arrested after sexually assaulting child in south Wales

This is the moment a fleeing paedophile carrying a knife who sexually assaulted a child …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime