google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu dau am dyfu £2m o ganabis mewn hen ysgol yn Llandysul

Advertisements

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl tyfu gwerth £2m o ganabis mewn hen ysgol yn Llandysul.

Roedd Alfred Perkola, 44 o Lundain, ac Aldi Gjegjaj, 25 o Salford, wedi pledio’n euog i gynllwynio i gyflenwi canabis.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher cafodd Perkola ei garcharu am dair blynedd a naw mis, tra bod Gjegjaj wedi derbyn dedfryd o dair blynedd dan glo.

Cafodd y ddau eu harestio fis Gorffennaf 2024 ar ôl i bum cês llawn canabis gael eu darganfod wedi i gar a fan gael eu stopio gan swyddogion wrth deithio drwy Sir Gaerfyrddin.

Daeth i’r amlwg o edrych ar ddata GPS o’r fan fod y cerbyd wedi teithio o Lundain i Geredigion, lle’r oedden nhw wedi stopio am gyfnod byr cyn symud yn eu blaenau.

Arweiniodd ymholiadau’r heddlu at archwilio hen ysgol yng nghanol Llandysul, lle cafodd cannoedd o blanhigion canabis eu darganfod.

Y gred yw bod gwerth yr holl blanhigion tua £1,960,000.


BBC News

Views: 1

See also  101-year-old WW2 codebreakers reunite for anniversary

Check Also

World Cup of Darts 2026: Teams, schedule, prize money, format and how it works

The 2026 World Cup of Darts starts on Thursday, 11 June and lasts for four …

Wolves: Wolves dismiss Rob Edwards after seven months in charge at Molineux

Wolves have sacked head coach Rob Edwards after just seven months following their relegation from …

Gwynedd: Galw am ymddiheuriad dros ‘smonach’ mesurau Erthygl 4

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport wake nc. Fishing boat transport.