google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tŷ Ffit: ‘Yr her go iawn’ yn cychwyn rŵan

Advertisements

“Y peth mawr ac anoddaf oedd gweithio drwy’r ochr seicolegol a deall pam o’n i wedi cyrraedd lle yr oeddwn i. A theimlo bod o ddim yn hunanol i edrych ar ôl fy hun a bod o’n neud lles i bawb o’n cwmpas i.”

Fel un o’r pump unigolyn gafodd gyfle i drawsnewid eu bywydau ar Tŷ Ffit eleni, mae Gwawr Job-Davies yn dweud mai newid ei meddylfryd oedd y sialens a’r cyflawniad pennaf.

Ac wrth i’r pump ddychwelyd i’w bywydau bob dydd, nawr mae’r her yn cychwyn wrth iddynt geisio parhau gyda’r hyn maent wedi ei ddysgu – ond heb help y mentoriaid ar y gyfres S4C.

Mae’r ffisiotherapydd o Hen Golwyn yn cydnabod hynny mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw am ei phrofiad: “Dyna lle mae’r her go iawn yn dechrau ydy mynd yn ôl i bywyd go iawn – oedd y gyfres yn ffantastig ac yn gyfle mor dda i fod yn ran ohono fo.

“Mae’n anodd mewn rhaglen awr yr wythnos i ddal bob dim ‘da ni ‘di gael allan o’r profiad hefyd – oedd o mwy anhygoel i ni fel y pump o ni oedd yn ran ohono.”

Mae’r gyfres yn defnyddio maethydd a mentoriaid yn ogystal a meddyg i helpu’r grŵp i wella eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Meddai Gwawr: “Dwi ddim yn meddwl bod o’n exaggeration i ddweud fod o’n newid bywyd o ran sut mae wedi newid meddylfryd fi a sut dwi’n mynd ati mewn bywyd rŵan.

“O’n i’n andros o nerfus ar y penwythnos cyntaf ond o hynny mlaen prin o’n i’n gallu stopio gwenu achos o’n i’n teimlo cymaint o wahaniaeth oedd o’n wneud.

“Dwi wedi dysgu gymaint amdana fi fy hun, am sut i ymdopi yn well mewn bywyd so mae wedi bod yn anhygoel.”


BBC News

See also  'Victim attacked as he lay on the floor'

Check Also

Gwynedd: Calls for action over ‘inappropriate’ campervan parking

There are a rising number of campervans being parked in “inappropriate” locations across Gwynedd, a …

Welsh rugby’s key signings ahead of 2026-27 season

Cardiff have plenty of firepower in the backs but need to provide a platform if …

Ex-Wrexham player Hari Roberts calls for more support for youngsters released by clubs

A young footballer has described the impact on his mental health after failing to secure …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime