google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Troi ar gelf mewn galar yn therapi i gyn hyfforddwr pêl-droed

Mae ‘na dair blynedd ers i Glyn golli ei wraig, Ann, ac mae’n credu fod troi at gelf wedi bod yn therapi iddo.

“Pan o’n i’n dod dros y galar, o’n i’n gallu mynd allan at gyfeillion oedd yn fy helpu i ac ro’n i’n gallu dechrau mynd i wylio pêl-droed eto, i Everton, Manchester City, Treffynnon, Fflint neu bwy bynnag, ac oedd hynny yn iawn.

“Ond yr hyn o’n i’n gael fwy anodd i’w wneud oedd paentio adra. O’n i’n paentio yn yr ystafell ar ben fy hun, codi a mynd at Ann a gofyn iddi beth oedd hi’n feddwl o’r peth yma a dangos syniadau iddi hi. Unwaith oedd hi wedi mynd, roedd ‘na ddistawrwydd llethol rownd y tŷ, do’n i ddim mewn cae pêl-droed efo 60,000 o bobl.

“Drwy gefnogaeth cyfeillion oedd yn gofyn i mi wneud lluniau iddyn nhw, a gan amlaf tirlun oedden nhw eisiau, tirlun o rywle yr oedden nhw yn ei hoffi.

“Wrth neud y lluniau i rywun arall, roedd o yn fy ysgogi i roi fy mhen i lawr ac i gario ‘mlaen a dwi’n ddiolchgar iawn o bob un ohonyn nhw.

“Dyw fy mywyd i mwyach ddim yn wyn ac yn ansicr, mae ‘na fwy o liw ynddo nag oedd tair blynedd yn ôl,” meddai.


BBC News

Advertisements

See also  Trains named after Ryan Reynolds and Rob McElhenney's home cities

Check Also

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Dolly Parton i ymddangos ar fersiwn newydd o Jolene – yn Gymraeg

Mae’r fideo hefyd yn dangos Jada gyda Dolly yn cytuno i ganu ar y trac, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime