google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Triathlon cyntaf Dilwyn Morgan – 67 oed a naw mis ers dysgu nofio

Advertisements

Ddechrau’r flwyddyn doedd Dilwyn Morgan methu nofio, ond mae’r digrifwr 67 oed bellach yn dathlu nofio 750m yn Llyn Tegid i gwblau ei Triathlon cyntaf.

Ac mae ‘na reswm arall iddo fod yn falch o’i hun – gan ei fod yn gyn-aelod o’r Llynges a bellach yn gyfrifol am wasanaethau oedolion, iechyd a lleisiant ar gyngor Gwynedd.

Meddai wrth Cymru Fyw: “Roedd hi’n chwythu’n go arw ar y diwrnod, a phobl yn stryglo – mi ro’n i’n stryglo ac yn meddwl ‘o dyma ni, dwi’m yn mynd i neud hi.’

“Ond neshi gario mlaen a gorffen a dwi’n bendant am wneud Triathlon arall rŵan, ella trio neud un dwbl hyd yr un yma, ond gawn ni weld.”

Roedd Dilwyn, sy’n gynghorydd ac yn cyflwyno ar y radio a theledu, wedi bod yn chwarae rygbi tan iddo roi’r gorau iddo’n 50 oed.

Wedi iddo gael clun newydd fe gafodd rybudd gan y meddygon i beidio rhedeg eto a chadwodd yn heini drwy feicio gyda Chlwb Beicio’r Bala.

Ond bum mlynedd yn ôl, yn sgil bod yn gaeth i’r tŷ yn ystod y pandemig, fe ddechreuodd o redeg.

Meddai: “Dilyn un o’r aps couch to 5km neshi – neshi stryglo efo hwnna. Ro’n i’n cyrraedd wythnos tri ac wedyn yn tynnu mysl, a gorfod stopio. Wnaeth o gymryd pedwar neu bum mis i gyrraedd y 5k. Unwaith roedd rhwyun wedi cyrraedd hynny roedd o’n dod yn haws wedyn.”


BBC News

Views: 0

See also  Pakistan v Australia - Cricket

Check Also

'Dim lle i beilonau' ar gyfer cysylltiadau trydan newydd – gweinidog ynni

Gweinidog ynni Cymru yn mynnu y bydd ei blaid yn cadw at eu hymrwymiad i …

Dame Prue Leith on calling Michelin Guide to ask why she didn't have a star

The ex-Great British Bake Off judge speaks to crowds at Hay Festival about the books …

Premier League darts: Price and Clayton’s quest for final showdown amid ‘Luke v Luke’ talk

Price is the only semi-finalist yet to win the Premier League in his career, although …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime