google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Trenau rhwng Llundain a’r gogledd yn ‘mynd o ddrwg i waeth’

Mae wedi galw ar Virgin i wneud cais debyg i redeg gwasanaethau o ogledd Cymru.

“Mae’n gwbl annerbyniol bod gogledd Cymru yn cael ei dorri i ffwrdd o wasanaethau dibynadwy i Lundain,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn “gwbl hanfodol o ran busnes, ymchwil ac arloesi a thwristiaeth”.

“Rydym yn dirfawr angen cwmniau eraill i ddod i mewn a darparu gwasanaeth dibynadwy i Lundain, gan lenwi’r bylchau cynyddol yn y gwasanaethau presennol gan Avanti.”

Mae ymchwil gan Gyngor Busnes Gogledd Cymru yn dangos bod y llwybr rhwng gogledd Cymru a Llundain wedi gweld mwy o wasanaethau yn cael eu canslo ar fyr rybudd nag unrhyw ran arall o rwydwaith Avanti, gan godi o 8.2% i 21.7% rhwng Ebrill a Mehefin.

Mae hynny chwe gwaith yn uwch na llwybr Avanti yng ngorllewin canolbarth Lloegr a oedd â chyfradd canslo o 3.6% ym mis Mehefin.

Ychwanegodd Sean Taylor o gwmni Zip World fod y gwasanaeth presennol yn un “trydydd byd”.

“Mae’r gwasanaeth wedi achosi embaras personol i mi drwy fethu apwyntiadau neu droi i fyny’n hwyr – mae’n sefyllfa hollol anfoddhaol sy’n mygu economi gogledd Cymru.”


Source link

See also  Yr etholiad cyffredinol yng Nghymru mewn mapiau a graffiau

Check Also

Dan Watts: Exeter sign midfielder from Swansea City on loan

Exeter have signed midfielder Dan Watts from Championship leaders Swansea on a season-long loan. The …

I’ve learned lessons, first minister says after summer budget defeat

At a press conference ap Iorwerth warned of a challenging financial situation and said his …

Dynes wedi marw o drawiad gwres tra’n cerdded ar Yr Wyddfa – cwest

Mae cwest wedi clywed bod dynes 35 oed wedi marw ar fynydd yn Eryri ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime