google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trefn cyfarfodydd Llys yr Eisteddfod yn ‘anfoddhaol’ – Dylan Iorwerth

Mae cyn-enillydd prif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud fod angen newid trefn cyfarfodydd y corff llywodraethol, Llys yr Eisteddfod.

Dywedodd Dylan Iorwerth bod cyfarfod o’r llys ddydd Iau ar y maes yn “anfoddhaol”, a bod angen ei gwneud hi’n “haws i aelodau cyffredin ddod â chynigion gerbron”.

Un o’r pynciau trafod oedd cynnig gan Dylan Iorwerth a rhai llenorion eraill yn sgil y problemau gododd gyda’r Fedal Ddrama ym Mhontypridd y llynedd, pan bu rhaid atal y wobr er na chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny.

Ry’n ni’n cael ar ddeall bod yr Eisteddfod wedi cynnig defnyddio darllenydd sensitifrwydd yn y dyfodol er mwyn ceisio osgoi sefyllfa debyg eto, ond dywedodd Dylan Iorwerth ac eraill y gallai hynny “ddrysu” y broses o gystadlu’n ddi-enw.

Ond yn sgil gwelliant i oedi’r penderfyniad daeth y drafodaeth i ben.

Dywedodd yr Eisteddfod y bydd y mater yn mynd at Bwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod, sy’n “cynnwys arbenigwyr ar draws pob disgyblaeth”, ac y byddai’r “cynigydd, eilydd a chynigydd y gwelliant yn cael eu gwahodd i ymuno yn y drafodaeth”.


BBC News

Advertisements

See also  US healthcare needs fixing, but there's no agreement on how to do it

Check Also

Motorcyclist dies after falling into sea in Great Orme crash

A man has died after falling into the sea following a crash involving his motorbike, …

WXV Global Series: Sean Lynn hails grit of 13-player Wales in Japan win

Wales head coach Sean Lynn has praised the grit shown by his side during their …

Gabrielle Creevy loved being Welsh assassin on Netflix’s Black Doves

Award-winning actress Gabrielle Creevy has told how she loved being able to play “a very …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime