google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Trawma digartrefedd yn helpu fi i rannu fy stori’

Advertisements

“I ddechrau efo, roedd o’n rhywbeth trawmatig ac yn rhywbeth dwi wedi stryglo efo ond ers i fi fod yn yr ystafell ymarfer efo pawb dwi’n teimlo fod y trawma wedi helpu fi – dwi’n gallu rhoi input fi mewn i bethau mewn ffordd positif, ac mae wedi rhoi persbectif gwahanol i fi.

“Dwi’n meddwl rŵan am y pethau dwi wedi bod trwy a dwi’n teimlo hyder a balchder a dwi’n teimlo’n gryf amdano fo.

“A dwi’n teimlo mwy hyderus i gymryd camau ymlaen rŵan efo’r trawma tu ôl i fi ac yn helpu fi.”

Bu farw mam Osian pan oedd yn chwe mlwydd oed ac yn y cyfnod wedi hynny mi wnaeth y teulu chwalu.

Yn ddigartref am y tro cyntaf yn 12 oed, mae Osian yn cydnabod: “Roedd profiad cyntaf fi yn ddigartref yn brutal (pan fu’n cysgu tu ôl i’r Co-op) ond dwi wedi symud i ofal wedyn ac o ofal i le fy hun ar fy mhen-blwydd yn 16.

“Ers hynny dwi wedi symud i wahanol lefydd yn y gogledd ac wedi cysgu ar soffa ac mewn llety dros dro.

“Oedd hi’n afiach o sefyllfa.”

Mae Osian wedi bod yn ddigartref yng ngogledd a de Cymru ac yn dweud fod y ddau yn brofiadau gwahanol iawn: “Mae ‘na lot o wahaniaeth – ‘nes i deimlo fod bod yn ddigartref yn ne Cymru lot mwy anodd oherwydd mae local connections a chael help sy’n actual help yn bwysig.

“Mae scale y broblem yn ne Cymru lot mwy na yn y gogledd so mae’n anoddach cael help yn gyflym.

“Ond dwi mor lwcus bod fi wedi cael siawns i symud i’r de drwy bêl-droed (bu Osian yn chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd i’r Digartref).

“O’n i’n rhedeg oddi wrth trawma fi. Rŵan ar y llwyfan efo pobl sy a’r un mindset â fi dwi’n teimlo mwy hyderus i fod yn fi fy hun.”


BBC News

See also  Ben Davies: Tottenham Hotspur defender targeting Gareth Bale's Wales cap record

Check Also

Welsh Gender Service surgical referrals paused for clinical review

The Welsh Gender Service has paused scheduled and new referrals for gender-affirming surgeries, after the …

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime