google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trafod cau meddygfa yn Sir Gâr sydd â dros 4,000 o gleifion

Advertisements

Yn ôl Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Hywel Dda, mae gan y bwrdd iechyd ddyletswydd “i sicrhau darpariaeth ddiogel, gynaliadwy ac o ansawdd uchel” o wasanaethau meddygol cyffredinol.

“Mae Meddygfa’r Sarn yn bractis bach a gwledig ac mae wedi cael trafferth darparu’r lefel o barhad gofal a gwasanaethau yr hoffem i’n cleifion,” meddai.

“Roedd y panel o’r farn mai gwasgaru’r rhestr cleifion yw’r ffordd orau ymlaen i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at y gofal gorau posibl a bydd y bwrdd yn ystyried yr argymhelliad hwn yn ofalus.

“Os cymeradwyir argymhelliad y Panel Practis Gwag, mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â chleifion, staff, cymunedau lleol a rhanddeiliaid cyn i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu i ddeall sut y gallai’r newid effeithio arnynt ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen.”

Bydd y camau nesaf ar ddyfodol Meddygfa’r Sarn yn cael eu gwneud yng nghyfarfod y bwrdd ar ddydd Iau 29 Ionawr.

Yr argymhelliad gan y panel yw i’r bwrdd i gymeradwyo gwasgaru cleifion Meddygfa’r Sarn i feddygfeydd cyfagos, yn amodol ar ymgysylltu â’r cyhoedd ar yr opsiwn hwn.


BBC News

Views: 3

See also  Cardiff Devils bounce back to winning ways against Fife Flyers

Check Also

Man admits driving into pedestrian in 'brutal' electric motorbike hit-and-run

Jordan Willetts drove off after the incident before handing himself in to police two days …

England Under-19 call for Glamorgan pair Norton and Wallace

Meanwhile, Glamorgan batters Jack Hope-Bell and Jacob Blades are in a shadow England development squad …

Lawson Creighton: Ospreys interested in signing Australian fly-half

Ospreys are interested in signing Australian fly-half Lawson Creighton. The 27-year-old, who can also play …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.