google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Traddodiad canu yn dychwelyd i dafarn yn Nyffryn Conwy

Advertisements

Un o flaenoriaethau Ann, John ac Alun oedd i wneud y dafarn yn un gynhwysol.

Mae Rowen yn bentref sydd â chymdogion Cymraeg yn byw yno, rhai yn ffermio’r tir ac eraill wedi byw yno gydol eu hoes, tra mae trigolion eraill y pentref yn rhai sydd wedi symud i’r ardal i fyw.

Mae lleoliad y pentref ar droed mynyddoedd y Carneddau yn ei wneud yn lle poblogaidd iawn gyda cherddwyr ac mae’r dafarn hefyd wedi’i lleoli ar ochr llwybr y pererinion.

“O’n i’n weld o fel cyfle i ddod â’r dafarn yn ôl yn rhywle i’r gymuned ac i bobl y pentref,” meddai Ann.

“Rwy’n ceisio bod yn gynhwysol yn y ffordd yna hefyd achos mae Rowen yn bentra reit wahanol, mae dipyn o Gymry a ffermwyr sydd dal yn asgwrn cefn y gymuned, i ddweud y gwir, ond mae yna lot o bobl yn amlwg wedi symud i mewn.

“Rhai wedi symud ers blynyddoedd maith yn ôl ac yn rhan o’r pentra ers hanner canrif a mwy, ac mae pobl eraill sydd wedi symud i mewn yn reit ddiweddar.

“Yr her ydi cael y cydbwysedd fel bod ni’n cael cadw’r Cymreictod, ond ei wneud o fel bod o’n rhywbeth mae pawb yn gallu teimlo’n rhan ohono fo.”

Roedd agor y dafarn hefyd yn golygu y gallai Alun setlo’n ôl a byw yn ei gynefin unwaith eto ar ôl cyfnod o weithio i ffwrdd.

“Mae hyn yn newid i be’ o’n i’n ‘neud o’r blaen; ro’n i wedi gweithio i ffwrdd o hyd a byth adra a daeth y cyfle i agor y lle ‘ma a dod a fo’n ôl i sut oedd o ers talwm,” medd Alun.

Wrth edrych i’r dyfodol mae Ann yn bwriadu cyflwyno rhagor o ddigwyddiadau i hybu Cymreictod ac yn annog unrhyw un i fod yn rhan o draddodiad poblogaidd sydd wedi bod yn rhan bwysig o gymuned fach gefn gwlad yng Nghonwy ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.


BBC News

Views: 1

See also  Labour promises pay boost for school support staff

Check Also

Miriam Margolyes says being born Jewish has affected her whole life

“My friends and my relatives in Golders Green and Dollis Hill and Radlett and St …

Zain Ul Hassan: All-rounder extends Glamorgan stay

Glamorgan all-rounder Zain Ul Hassan has signed a contract extension at the club until the …

London driver jailed after Cwmbran getaway attempt while handcuffed

Body cam footage has captured a man attempting to drive away from police officers while …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Go beyond simple links with powerful features designed for creators.