google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Tra bod y bil Cymorth i Farw’n cael ei drafod ni ddylai Senedd Cymru ei gymeradwyo’

Advertisements

Mae rhai ASau yn anhapus bod yr Arglwyddi’n cymryd cyhyd, ac yn amau y gallai gwrthwynebwyr geisio gael gwared arno wrth redeg y cloc i lawr.

I ddechrau roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, yn ansicr o’r mesur ond mae bellach yn dweud ei bod hi’n fwy tueddol o’i gefnogi yn dilyn trafodaethau ers hynny.

“Dwi yn gry’ o’r farn bod hyn yn benderfyniad sylfaenol bod hyn yn hawl i’r unigolyn sy’n wynebu salwch terfynol iddyn nhw benderfynu sut a pryd ma’ nhw’n marw.”

Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson, yn gwrthwynebu’r mesur, ac mae dwsinau o’r gwelliannau hynny yn ei henw hi.

Mae’n dweud eu bod nhw yno am reswm a bod cymaint ohonyn nhw yno gan mai gwaith yr Arglwyddi yw craffu ar ddeddfwriaeth a’i gwella.

“Dyw nifer y gwelliannau ddim yn ddefnyddiol o ran yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud.

“Yr her yw gyda’r bobl hynny sydd eisiau newid y gyfraith – mae angen dau feddyg, penderfyniad terfynol, a diagnosis chwe mis.

“Mae’n swnio’n syml iawn, ond yn y manylion mae’r broblem. Mae’r bil hwn yn rhoi o leiaf 40 o bwerau yn nwylo’r Ysgrifennydd Gwladol.

“Mae’n rhoi llwythi i mewn i ddeddfwriaeth eilaidd sy’n golygu na fydd yn dod yn ôl i’r Senedd.

“Felly un o’r rhesymau pam rydyn ni’n craffu ar hwn yw bod yn rhaid i’r bil hwn fod yn ddiogel.”


BBC News

Views: 2

See also  Four people trapped in wrecked car after crash

Check Also

Supermarket staff praised for creating sun shade for seagull nesting in store's car park

The nest was inches away from the road on one side and parking spaces on …

The Port Talbot writer following in the footsteps of Sally Rooney

Communion is included on a list that’s previously celebrated Normal People author Sally Rooney. BBC …

Llafur Cymru’n wynebu ‘argyfwng dirfodol’, yn ôl cyn-Weinidog

Ychwanegodd bod Plaid Cymru’n wynebu sawl penderfyniad anodd wrth lywodraethu am y tro cyntaf ym …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonrank | free link building tool | automated seo backlinks.