google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

‘Torcalonnus’ – lefelau sbwriel strydoedd Cymru ‘y gwaethaf erioed’

Ccb1be10 2c03 11f0 8ff1 59f5dcf8e9f5.jpg

Advertisements

Mae CLlLC – sy’n cynrychioli awdurdodau lleol ar draws Gymru, a Cadwch Gymru’n Daclus wedi annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda chynlluniau sydd wedi eu gohirio i orfodi cynhyrchwyr pecynnu i dalu tuag at gostau clirio sbwriel.

Mae cynllun dychwelyd ernes ar gyfer poteli a chaniau sy’n hirddisgwyliedig hefyd wedi ei oedi yn dilyn anghytundebau gyda Llywodraeth y DU dros benderfyniad Cymru i gynnwys gwydr yn y cynllun.

Dywedodd Owen Derbyshire, prif weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, fod Llywodraeth Cymru yn “cymryd camau pwysig” ond bod angen cynllun hirdymor ar gyfer lleihau sbwriel stryd.

“Be’ sy’n eitha clir o’r data yw bod y cyd-destun ry’n ni’n gweithio ynddi yn anoddach na mae fe erioed wedi bod.”

Mae’r elusen eisiau ymgyrchoedd addysg gyhoeddus torfol, gorfodaeth gryfach o ddeddfau sbwriel a “symud oddi wrth ddiwylliant untro”.

Ond dywedodd Mr Derbyshire nad mater i’r llywodraeth na’r cynghorau yn unig oedd hyn.

“Fi’n deall yn iawn pam fod cymunedau yn grac am hwn,” meddai.

“Ond beth y’n ni’n dechrau sylweddoli ydy nid bai un partner yw hwn. Mae gyda ni gyd gyfrifoldeb, mae gyda ni gyd rôl i chwarae os ni isie gwella’r sefyllfa yma.”


BBC News

See also  Omer Riza: Boss says Cardiff 'nervous' but confident of survival

Check Also

‘Newid rhywedd yn ofal iechyd, a gwasanaeth atal hunanladdiad’

Yn ôl Reform UK yng Nghymru, mae’n gwneud synnwyr i oedi cyfeirio pobl am driniaeth …

Richard Tice says Reform being Wales opposition is work in progress

Reform UK deputy leader Richard Tice has described the party’s transition into the role of …

Carcharu pedoffeil ‘peryglus ac ysglyfaethus’ am dros 20 mlynedd

Mewn sgyrsiau ar yr ap rhwng Chwefror a Mai 2024, fe ddywedodd Henton wrth ddefnyddwyr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime