google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrngedau i’r artist ‘hynod dalentog’ Iwan Gwyn Parry

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Iwan Gwyn Parry – artist amryddawn a fu farw yr wythnos hon yn ei bumdegau.

Cafodd ei eni yng Nghaergybi ar Ynys Môn yn 1970 a bu’n byw yn Rachub ym Methesda yn ddiweddarach yn ei fywyd.

Wedi iddo raddio mewn celf yng Nghaerdydd yn 1992 aeth i astudio ar gyfer ei radd meistr i ysgol gelf yn Chelsea.

Bu’n arddangos ei waith mewn orielau yng Nghymru, Llundain a Dulyn.

Roedd e’n bennaf adnabyddus am ei luniau o’r arfordir a’r môr – ac roedd y môr yn gefndir i nifer fawr o’i weithiau.

Yn ystod ei yrfa fe enillodd nifer o wobrau gan gynnwys dod yn ail am y fedal aur ar gyfer celfyddyd gain yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 1999.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n siarad yn gyhoeddus am fyw gydag anorecsia ac anhwylderau bwyta.

Wrth siarad ar y Post Prynhawn nos Iau dywedodd ffrind coleg iddo, yr artist Luned Rhys Parri, fod Iwan yn “ffraeth iawn, o’dd ‘na lot o hwyl i’w gael hefo fo ac o’dd o’n licio siarad hefo pobl o bob oed”.

Dywedodd perchnogion Oriel Ffin y Parc, Llandudno, mewn teyrnged y byddai “colled ar ei ôl” a’u bod wedi cydweithio gydag Iwan ers 2021.


BBC News

Advertisements

See also  Cardiff: Watch as young deer scurries through city streets

Check Also

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Dolly Parton i ymddangos ar fersiwn newydd o Jolene – yn Gymraeg

Mae’r fideo hefyd yn dangos Jada gyda Dolly yn cytuno i ganu ar y trac, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime