google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Taylor Swift i’r dorf yng Nghaerdydd: ‘Shwmae!’

Mae Taylor Swift wedi cyfarch miloedd o bobl yn Stadiwm Principality, Caerdydd yn Gymraeg.

Wrth i’r Eras Tour ddod i Gymru, fe ddechreuodd yn gantores ei chyngerdd drwy ddweud wrth y dorf: “Shwmae!”

Aeth ymlaen i estyn “croeso i daith Eras” cyn datgan mae dyma ei sioe gyntaf erioed yng Nghymru.

Roedd yna ymadrodd Cymraeg arall nes ymlaen gan un o’i dawnswyr, sef “ych a fi” yn ystod y gân We Are Never Ever Getting Back Together.

O’r daith 152 cyngerdd ar draws y byd nos Fawrth oedd yr unig gyfle i’w gweld yn perfformio yng Nghaerdydd.

Roedd rhai o’i dilynwyr wedi cyrraedd y stadiwm yn yr oriau mân yn y gobaith o sicrhau’r lle gorau posib i’w gweld o agos.

Mae yna gred y gallai’r cyngerdd gyfrannu £64m i economi’r ddinas.


Source link

Views: 0

See also  Mohamud Hassan: Arrested man looked beaten before death - inquest

Check Also

Wales wildfires: Military deployed and arson arrests made

On Friday, Stephen Kinnock, Secretary of State for Wales, said military personnel had been deployed …

Finlay Tarling’s team withdraws as Volta a Portugal resumes

Finlay Tarling’s team, NSN Development, have withdrawn from the remaining stages of the Volta a …

Tanau’r Rhondda yn ‘gwbl frawychus’ a phedwar yn cael eu harestio

Mewn neges a gafodd ei gyrru i bob ffôn symudol ar draws Cymru a Lloegr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime