google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tata’n cynnig ailagor trafodaethau os yw streic yn cael ei gohirio

Mae cwmni Tata Steel wedi cynnig cyfarfod undebau ar gyfer trafodaethau o’r newydd ar yr amod bod undeb Unite yn gohirio streic sydd wedi’i threfnu ar gyfer 8 Gorffennaf.

Y gred yw bod y cwmni, mewn llythyr i Bwyllgor Dur y DU – sy’n cynrychioli undebau Community, Unite a’r GMB – wedi cynnig trafod buddsoddiad yn safle Port Talbot ar gyfer y dyfodol.

Ond byddai’n rhaid i’r undebau ohirio unrhyw weithredu diwydiannol yn ne Cymru.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham wrth BBC Cymru: “Os ydyn nhw’n gohirio cau, byddwn ni’n gohirio gweithredu.”

Mae gweithwyr Unite wedi trefnu i streicio am gyfnod amhenodol o 8 Gorffennaf dros gynlluniau Tata i dorri 2,800 o swyddi.

Mae’r undeb eisiau i Tata oedi cyn cau ffwrneisi chwyth Port Talbot, sydd i fod i ddigwydd fis Medi.


Source link

Views: 0

See also  Traders 'devastated' as market loved by TV prop buyers could be bulldozed for housing

Check Also

Hundreds of bird lovers flock to Caernarfon to see Western reef heron

From feeding in the harbour near Cei Llechi and roosting in trees by Aber Bridge, …

Stolen JCB rams into takeaway and wife's concerns before husband killed her

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Women’s World Cup qualifying: Rhian Wilkinson says Wales can reach Brazil after Czech Republic win

“As you can see, we’ve got some fabulous players who any country would be proud …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Chaveiro 24 horas na vila formosa.