google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Taid a nain ‘creulon’ wedi llofruddio eu hŵyr 2 oed – llys

36190170 405d 11f0 835b 310c7b938e84.jpg

Advertisements

Aeth Ms Rees yn ei blaen i grynhoi’r dystiolaeth feddygol am gyflwr Ethan.

Casglodd y patholegydd Dr Brian Rogers bod gan y plentyn 40 o anafiadau y tu fewn a thu allan i’w gorff pan fu farw.

Roedd y rhain yn cynnwys gwaedu a cheulad gwaed ar ei ymennydd a madruddyn y cefn.

Roedd anaf i’r coluddyn oedd yn debygol o fod wedi ei achosi gan ergyd, meddai.

Ychwanegodd fod yr anafiadau i’w ymennydd hefyd yn debygol o fod wedi eu hachosi gan ergydion neu ysgwyd.

Ym marn Dr Rogers doedd yr anafiadau yma ddim wedi eu hachosi trwy ddamwain, meddai Ms Rees.

Dywedodd Ms Rees bod tystiolaeth gan bedwar arbenigwr meddygol hefyd yn dweud bod Ethan wedi dioddef cyfres o anafiadau oedd ddim yn debygol fod yn ddamweiniol.

Roedd gwaedu i lygaid y plentyn yn gyson ag ysgwydd sylweddol, yn ôl un arbenigwr.

Dywedodd arbenigwr arall bod y lluniau CCTV yn dangos Ethan yn ymddwyn yn “abnormal” a bod hyn yn debygol o fod yn “ymateb a datblygiad seicolegol” i gamdriniaeth, meddai Ms Rees.

“Roedd hi’n amlwg i unrhyw oedolyn rhesymol bod Ethan angen cymorth meddygol, ond wnaeth y tri diffynnydd ddim byd i helpu’r bachgen bregus hwn,” dywedodd Ms Rees.

Mae’r achos yn parhau.


BBC News

Views: 1

See also  European-bound Penybont get 'significant new investment'

Check Also

Alex Callender back as Wales call up new faces to take on Barbarians

Wales have been boosted by the return from injury of highly-regarded back-row Alex Callender for …

Plant dan 16 oed i gael eu gwahardd rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi gwaharddiad i blant dan 16 oed o …

Ateb y Galw: Trystan Owen

Y flogiwr o Fangor sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw. BBC News Views: 1 Khamrah …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
farm equipment transport alabama. heavy equipment transport norfolk va.