google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sunak yn cefnogi ymchwiliad annibynnol i roddion ymgyrch Gething

Yn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd yr AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb: “Ers chwe mis, mae miloedd o fy etholwyr wedi byw gydag aer llygredig o safle tirlenwi Withyhedge.”

Wrth godi mater y rhodd a benthyciad Banc Datblygu Cymru, dywedodd: “A yw’r prif weinidog yn cytuno â mi bod y mater yn gofyn am ymchwiliad annibynnol difrifol?

“Nid yw’n fater mewnol gan y Blaid Lafur ac, yn y pen draw, mae angen i’r cwmni hwnnw adael fy etholaeth fel y gall pobl Sir Benfro gael ansawdd eu bywyd yn ôl.”

Atebodd Mr Sunak gan ddweud bod Mr Crabb “yn codi mater hynod o bwysig a gwn fod pobl yng Nghymru yn pryderu am y berthynas y mae’n sôn amdani”.

Ychwanegodd: “Rwyf hefyd yn cytuno ag ef ar yr angen am dryloywder ac ymchwiliad ynglŷn ag arweinydd Llafur Cymru oherwydd mae’n amlwg iawn nad yw’r sefyllfa yn dryloyw o gwbl ac mae angen atebion.”


Source link

See also  Reform UK's Welsh leader says property location being 'weaponised'

Check Also

Welsh Gender Service surgical referrals paused for clinical review

The Welsh Gender Service has paused scheduled and new referrals for gender-affirming surgeries, after the …

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime