google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sul y Cofio: ‘Meddwl am ffrindiau na sydd yma fyddai i’

Advertisements

Ar Sul y Cofio dywed cyn-filwr o Lanrug ger Caernarfon bod y diwrnod yn bwysig iddo fe wrth iddo gofio am ffrindiau “na sydd efo ni mwyach”.

Ymunodd Siôn Prysor Williams â’r Gwarchodlu Cymreig yn 17 oed ac fe dreuliodd amser yn Afghanistan, Irac a Kenya.

“Dwi’n teimlo’n reit drist ar adegau yn meddwl am yr holl bobl sydd ddim yma dim mwy a sydd wedi rhoi eu bywydau er mwyn gwella bywydau eraill mewn gwledydd diarth,” meddai.

“Mae’n ddiwrnod i sbio nôl ar atgofion da.”

Ers i Siôn adael y fyddin, mae wedi colli dau o’i ffrindiau o’r catrawd wedi iddyn nhw farw drwy hunanladdiad.

“Pan fyddai o flaen y cenotaph dydd Sul, nhw fydd yn fy meddwl i,” meddai.

Dywed Cymdeithas y Cymod sy’n ymgychu o blaid heddwch ei bod yn “bwysig parchu milwyr a fu drwy’r drin ond bod lle i amau cymhellion gwleidyddol pan mae yna feddylfryd rhyfelgar yn cyniwair a gwariant ar arfau ar gynnydd”.

Yn gynharach eleni, addawodd Llywodraeth y DU gynyddu gwariant amddiffyn o 2.3% i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn 2027, sy’n golygu gwario £13.4bn yn fwy bob blwyddyn tan hynny.


BBC News

Views: 0

See also  Heart surgeon realises childhood dream

Check Also

Plaid Cymru i wario £55m ar ehangu gofal i blant dwy oed

Fe wnaeth BBC Cymru adrodd ddydd Sul bod cynghorau’n wynebu heriau difrifol o ran ehangu …

Mark Drakeford yn gwrthod honiadau am bwysau ariannol y llywodraeth

Dywedodd ffynonellau o bleidiau Llafur a’r Ceidwadwyr Cymreig wrth y BBC nad oedden nhw wedi …

Cyfle i eisteddfodwyr ‘ddweud eu dweud’ ar ddyfodol y Brifwyl

Bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd ofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfodydd. “Yn gam neu’n gymwys …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Search properties coconut point residences. We are trusted by worldwide traders. Just a moment....