google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Storm Benjamin i ddod â gwynt a glaw i Gymru ddydd Iau

Advertisements

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wynt a glaw ar gyfer gwahanol rannau o Gymru ddydd Iau, wrth i Storm Benjamin daro’r Deyrnas Unedig.

Bydd rhybudd melyn am law yn dod i rym am 00:00 fore Iau ar gyfer nifer o siroedd y de, fydd yn parhau tan 21:00.

Mae’n weithredol ar gyfer siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd gall hyd at 30mm o law ddisgyn dros gyfnod o ychydig oriau fore Iau, a hyd at 50mm mewn rhai ardaloedd, gan achosi amodau peryglus ar ffyrdd, a phosibilrwydd o lifogydd.

Mae rhybudd arall am wyntoedd cryfion ar gyfer siroedd y gorllewin – Abertawe, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Penfro ac Ynys Môn.

Bydd yn dod i rym am 06:00 fore Iau ac yn parhau tan 15:00.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gwyntoedd gyrraedd cyflymder o 45mya, gyda phosibilrwydd y gallai gyrraedd 55mya ar hyd yr arfordir.


BBC News

Views: 0

See also  England v India, fifth Test: England drop three chances in evening session

Check Also

‘Trist’ bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson. …

Starmer defence plans will cut Welsh budget, says first minister

The Welsh government added: “It is completely unacceptable that Welsh capital budgets which are already …

Cardiff video shows seagull ‘meeting’ and overflowing bins as students move out

Adan, from London, lived in Cathays while studying a masters degree in international relations. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Toggle google analytics.