google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Porthladd Caergybi ar gau tan o leiaf ganol Ionawr

Fe rybuddiodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, ddydd Llun bod rhai swyddi wedi eu colli yn barod yn sgil cau’r porthladd, ac roedd Llywodraeth Iwerddon wedi awgrymu bod y safle’n “annhebygol” o ailagor cyn y Nadolig.

Mewn ymateb i’r cadarnhad y bydd y porthladd ar gau am o leiaf bedair wythnos arall, mae Aelod o’r Senedd yr ynys yn dweud bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i ailagor y porthladd cyn gynted â phosib.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Bydd yr adroddiadau diweddar hyn yn peri pryder mawr i’r rhai sy’n gobeithio teithio adref dros gyfnod y Nadolig, yn ogystal â mewnforwyr ac allforwyr fel ei gilydd.

“Mae’n bwysig, yn yr adeg brysur hon o’r flwyddyn, bod ein cysylltiadau masnach hanfodol yn weithredol a bod teithwyr yn cael eu hysbysu gan y llywodraeth am unrhyw ddiweddariadau pellach.”

Mae’n galw ar Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, am ddiweddariad brys pa gamau sy’n cael eu cymryd, gyda rhanddeiliaid eraill, i atygweirio’r difrod ac ailagor y porthladd yn llawn gynted â phosib.

Mae hefyd yn gofyn pa gymorth gall Llywodraeth Cymru gynnig i fusnesau sydd wedi eu heffeithio.


Source link

Advertisements

See also  England and Wales to play Wembley friendly

Check Also

Agor hen glo yn datrys dirgelwch ar ôl 400 mlynedd

Dywedodd Dr David Williams, cydymaith ymchwil yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, ei fod yn “amheus” …

Bygythiad tanau gwyllt yn ‘arswydus’ medd y Tywysog William

Eglurodd Kath Edwards o Plant y Cymoedd bod gwirfoddolwyr lleol wedi cadw’r ganolfan yn agored …

Prince William says climate change makes UK wildfire risk terrifying

There is a “terrifying prospect” of more UK wildfires in future due to climate change …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime