google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Stori person sy’n ysbrydoli fy llwyau caru’

“Mae’r traddodiad yn hollol hyfryd, bod rhywun yn creu rhywbeth allan o gariad efo’r deunyddiau sy’ gyda nhw yn eu dwylo ac yn cymryd rhywbeth cyffredin fel coed tân a’n creu rhywbeth hyfryd allan ohono fo i’r person maen nhw’n caru.”

Ȃ hithau’n Ddiwrnod Santes Dwynwen bu’r artist Ceini Spiller yn rhannu sut mae’r grefft a’r traddodiad o lwyau caru yn ysbrydoli ei gwaith hi.

Mae llwyau caru Ceini wedi eu cartrefu ar draws y byd erbyn hyn ond llwy garu personol iawn oedd y cyntaf i’r grefftwraig o Abertawe i gerfio yn 2007, fel mae’n esbonio wrth Cymru Fyw.

Ar y pryd roedd Ceini’n hyfforddi i fod yn fydwraig yn Abertawe ac yn awyddus i roi anrheg i’w mam i’w diolch am ei chefnogaeth: “O’n i’n gwybod bod fi isho neud rhywbeth sbeshal i Mam a ‘nes i benderfynu neud llwy garu iddi hi achos o’n i’n gwybod fydde hi yn gwerthfawrogi fo.

“O’n i byth wedi cerfio o’r blaen, o’n i wedi neud gwaith coed fel Lefel A ond byth wedi defnyddio cyllell gerfio i wneud rhywbeth cywrain.

“‘Nes i gael pren a ffeindio stanley knife a dechrau hacio’r pren a ‘nes i rhywsut neud llwy garu. Mae’n edrych fel torch pan ti’n edrych arno rŵan ond ar y pryd oedd o’n rial bersonol i Mam, oedd hi wrth ei bodd ac oedd ei gwyneb hi yn bictiwr pan oedd hi wedi derbyn o.

“Oedd rhywbeth wedi cyffwrdd fi ac o’n i’n meddwl, dwi angen i bobl eraill deimlo hyn. Felly dyna sut wnaeth o ddechrau. Dwi heb gael fy nysgu na dim byd, jest dysgu fy hun wrth drio.”


BBC News

Advertisements

See also  Uefa Men's Under-19 Championships: Wales eliminated but retain World Cup chance

Check Also

Plans for Coedpoeth horse training site rejected on field full of ‘waste’

The company which owns the site, Rhosymedre-based SOS Aggregates, applied to the local authority for …

Tomos Williams: Do Wales need a Plan B before 2027 World Cup?

Williams has started every Test he has been available for since Tandy took the reins …

Tomos Williams: Do Wales need a Plan B before 2027 World Cup?

Williams has started every Test he has been available for since Tandy took the reins …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime