google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Stopio yfed: ‘Isio bod yr hogan hapus o’n i’

Advertisements

Mae elusen Adferiad yn “darparu gwasanaethau i bobl sydd wedi’u heffeithio gan afiechyd meddwl, defnydd cyffuriau neu alcohol, niwed gamblo, ac amgylchiadau heriol eraill”.

Yn 2024-2025 fe gynyddodd y nifer sy’n cael triniaeth o tua 17,000 i dros 35,000.

“Mae’r nifer yn frawychus ond mae’r marwolaethau hefyd wedi cynyddu yn sylweddol ers 2023,” meddai Wynford Ellis Owen, ymgynghorydd cwnsela arbenigol yn gyda Stafell Fyw yng Nghaerdydd, a chyn-weithiwr i Adferiad.

“Dyw’r ffigyrau diweddara’ ‘ma ddim yn fy synnu.

“Dwi i fy hun, fel un sy’n adfer wedi cyfnod o alcoholiaeth, yn gweld cymdeithas yn mynd yn fwy a mwy dibynnol ar alcohol, er enghraifft.

“Mi fysan ni’n disgrifio fo fel alcoholic thinking.

“Mae ‘Dolig yn ‘neud petha’n waeth rywsut, lle ma’ yfed alcohol yn cael ei ystyried yn normal.

“Mae’r normaleiddio wedi digwydd i’r fath radda’ fel ei bod o’n abnormal i rywun fel fi beidio yfed.

“Os dwi’n d’eud ‘dwi ‘di rhoi’r gorau i smocio’ neu ‘dwi ‘di colli pwysa’ mae pobl yn deud ‘grêt, grêt’.

“Ond os dwi’n deud ‘dwi ‘di stopio yfed’ mae pobl yn gofyn ‘be sy’n bod arnat ti?'”


BBC News

Views: 1

See also  Galw am dynhau rheolau 'anghynaladwy' ar ryddhau adar hela

Check Also

US tour highlights Wrexham’s stock is higher than ever

As Wrexham unveiled their new 2026-27 home shirt while ringing the Nasdaq bell in New …

Liverpool news: Reds beat Wrexham in New York

Liverpool won their second pre-season fixture of the summer 1-0 against Wrexham in New York, …

Lluniau harddu bro Eisteddfod Y Garreg Las

Mae trigolion ardal bro Eisteddfod Y Garreg Las wedi bod yn brysur yn addurno eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Good tide passion fruit gummies. The hand engraved heart pendant necklace. elfbar elfa vape.